Gyda’r ysgolion wedi ail-ddechrau ar ôl gwyliau’r haf mae Cynllun ‘noson allan’ Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwahodd cymdeithasau lleol o Fôn i Fynwy, sydd wrthi o bosib yn llunio eu rhaglen ar gyfer y gaeaf a’r gwanwyn, i ystyried trefnu noson allan o adloniant proffesiynol.
Mae’r cynllun hwn yn darparu sicrwydd na fydd yr hyrwyddwyr ar eu colled, hyd yn oed os na fydd y niferoedd sy’n mynychu yn ddigon i gwrdd â chost llwyfannu’r digwyddiad ac mae medru darparu adloniant am bris rhesymol yn cyfrannu’n fawr iawn at fywyd cymdeithasol cymunedau.
Dywedodd Peter Gregory, Pennaeth Cynllun Noson Allan Cyngor Celfyddydau Cymru:
“Dros Gymru gyfan yn ystod 2018-19, fe wnaeth y cynllun ariannu 513 perfformiad mewn cymunedau led-led y wlad ac mae’n hyfryd bod y cynllun hwn yn parhau i fynd o nerth i nerth ac yn gwneud cymaint, gyda chyn lleied o arian, i gefnogi bywyd diwylliannol ardaloedd gwledig a mwy diarffordd Cymru.
“Gobeithio y bydd cymdeithasau ar draws Cymru yn manteisio ar y cyfle hwn i drefnu adloniant proffesiynol o safon, ac y bydd hynny yn ei dro yn cefnogi a hybu bywyd diwylliannol o Fôn i Fynwy”
DIWEDD dydd Mercher, 4 Medi 2019
Nodiadau i olygyddion: