Gwerthuso effaith arian Cyngor Celfyddydau Cymru at Ŵyl Ymylol Caeredin 2013-2024
Y cyd-destun
Mae Cyngor Celfyddydau Cymru am gomisiynu gwerthusiad o broses ac effaith ein harian i gefnogi presenoldeb artistiaid yng Ngŵyl Ymylol Caeredin a gweld a oes cyfleoedd arddangos tebyg eraill i’w hystyried i gefnogi ein hartistiaid hefyd.
Gŵyl Ymylol Caeredin yw gŵyl gelfyddydol fwyaf y byd. Mae cynulleidfaoedd, rhaglenwyr, hyrwyddwyr a chynhyrchwyr o bob cwr o Brydain a'r byd yn mynd yno.
Mae’r Cyngor yn dosbarthu arian y Loteri i dalu am artistiaid i fynd a chyflwyno eu gwaith yno ers 2013. Mae Cymru yng Nghaeredin yn gronfa i gefnogi artistiaid o Gymru i gyflwyno eu gwaith ar lwyfan DU a rhyngwladol yng Ngŵyl Ymylol Caeredin i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, datblygu cysylltiadau cynaliadwy a mireinio eu hymarfer a’u patrymau teithio y tu allan i Gymru. Yn aml gyda’r Cyngor Prydeinig, mae’r gronfa wedi codi proffil artistiaid o Gymru a hwyluso eu cysylltiad â phobl eraill yn y maes.
Rydym hefyd wedi cynnig bwrsariaethau yn 2022 ac yn 2025 i gefnogi unigolion a chwmnïau ar adeg gynnar yn eu gyrfa i fynd i’r ŵyl, cysylltu ag eraill yno ac archwilio cyfleoedd rhwydweithio ym Mhrydain a thramor.
Y briff – beth fydd angen ichi ei wneud?
Dyma’r briff ar gyfer y gwaith ymchwil i lywio ein buddsoddiad mewn digwyddiadau arddangos yn y dyfodol. Nod yr ymchwil yw gwerthuso effaith cronfa Caeredin a bwrsariaethau Hadu’r Dyfodol i weld y manteision i'r rhai sy'n cael grantiau a lle byddwn yn gallu defnyddio ein hadnoddau i gael yr effaith fwyaf.
Beth fyddwch yn ei wneud?
Dull cymysg o ymchwil ansoddol a meintiol - gweithio gyda'n timau Ymchwil a Gwerthuso a Gwasanaethau Busnes a fydd yn rhoi mynediad ichi at ddata ariannol.
- Ymchwil pen bwrdd
- Adolygiad o'r arian rydym yn ei wario ers 2015 a'i effaith - arolwg gyda derbynwyr grantiau
- Adolygiad o effaith Hadu'r Dyfodol ar ymgeiswyr a chwmnïau llwyddiannus
- Effaith a llwyddiant Cymru yng Nghaeredin
- Cyfweliadau â Rhanddeiliaid: Cyfweld â rhanddeiliaid/grwpiau ffocws sydd wedi cael grantiau i ddeall y budd i'w sefydliad o ran cael archebion, magu cysylltiadau a’r effaith ar lwybr eu gyrfa. Deall yn fwy trylwyr y sefyllfa yn ogystal â'r arolwg pen bwrdd. Beth a weithiodd? Pa effaith ddaeth? Beth byddai’n gallu digwydd yn wahanol? Pam roedd cyfleoedd yn llwyddiannus ai peidio? Yn y dyfodol, pa gefnogaeth byddai’n gwneud y gorau o'r cyfleoedd sydd?
Mae’n bosibl i rai o'r buddion fod yn anuniongyrchol a thymor hir ond maent hefyd o fudd.
- Dadansoddi digwyddiadau posibl eraill yn y dyfodol i gefnogi artistiaid i fynd iddynt
Cyflwynwch adroddiad sy'n dangos effaith arian Caeredin ac argymhellion am y cymorth gorau i’w gynnig yn y dyfodol.
£12,000 gan gynnwys TAW yw gwerth y contract. Bydd yn cynnwys tâl bach i artistiaid i ddod i’r grwpiau ffocws (os nad ydynt eisoes yn gweithio i sefydliad sy’n cael arian amlflwyddyn y Cyngor).
Amserlen a chyflwyniad y canlyniadau
- Rhaid cynnal yr ymchwil yn 2025
- Rhaid cyflwyno'r adroddiad ar ffurf un adroddiad ysgrifenedig erbyn 6 Hydref 2025
Mynegwch eich diddordeb i:
Peter.Gregory@celf.cymru erbyn 17 Mehefin 2025 drwy CV a llythyr (gan nodi eich statws TAW).
Nodwch beth y mae modd ichi ei gyflawni am y £12,000.
Cyflwyno eich cynnig
Rydym yn croesawu ymatebion drwy’r Gymraeg, y Saesneg neu’n ddwyieithog. Ni fyddwn yn trin ceisiadau’n wahanol oherwydd eu hiaith.
Gwybodaeth ychwanegol
Mae Hadu’r Dyfodol a Bwrsariaeth Caeredin yn rhaglenni datblygu i artistiaid a chynhyrchwyr sy'n dod i'r amlwg a rhai sefydledig nad ydynt wedi mynd â gwaith i Ŵyl Ymylol Caeredin eto. Bydd Hadu’r Dyfodol yn gallu cynnig cyfleoedd i rhwydweithio a gweld gwaith o safon a phecyn cymorth o beth i’w ystyried wrth fynd â gwaith i’r Ŵyl. Yn 2022 roeddem wedi cefnogi 20 unigolyn i fynd.
Cymru yng Nghaeredin: 76 grant ers 2013