Gallet ti fod yn un o’r Artistiaid Ymweliadol nesaf i raglen ‘Breathing Space Ignite’ Tanio?
Hoffai Tanio gomisiynu:
Artistiaid Ymweliadol i ddosbarthu gweithdai gyda oedolion ar ein rhaglen ‘Breathing Space Ignite’ (BSI), i ddiweddu gyda digwyddiad rhannu amser Haf 2025.
Mae’r cyfle yma yn agored i artistiaid o bob disgyblaeth; mae cyfranogwyr BSI wedi mynegi diddordeb mewn ysgrifennu caneuon a cherflunio ond mae’n nhw hefyd yn agored i bethau newydd.
Y Prosiect:
Mae BSI yn raglen o weithdai llesiant creadigol wythnosol sy’n cael eu rhedeg gan artistiaid arweiniol gwahanol mewn 7 lleoliad ar draws De Cymru (6 yn Sir Penybont ac 1 ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf). Mae’r gweithdai yn rhedeg am 42 wythnos o’r flwyddyn, gyda pob un yn ffocysu ar ffurf celfyddydol gwahanol. Ein nod yw i gefnogi iechyd meddwl a llesiant y cyfranogwyr, tra adeiladu hyder a hunan-werth a helpu brwydro unigrwydd ac arwahanrwydd.
Hyd yn hyn, mae gennym ni grŵpiau canu, cerddoriaeth, celfyddydau gweledol ac ysgrifennu creadigol – mewn ambell i achos mae’r grŵpiau yma wedi bod yn gweithio yn eu ffurf celfyddydol am flynyddoedd.
Bydd yr Artist Ymweliadol yn dod mewn i rhedeg 5 gweithdy ymhob lleoliad i rhoi blas o rhwybeth newydd i’r cyfranogwyr. Gall dy weithdai cysylltu â’r hyn mae’r grŵpiau’n gwneud yn barod, neu allen nhw fod yn annibynnol. Hoffen ni’n fawr i glywed oddi wrth arbenigwyr ac artistiaid unigryw. Rydyn ni’n croesawu mynegiannau o ddiddordeb gan artistiaid o gefndiroedd amrywiol.
Mae’r amseroedd, lleoliadau a ffurfiau celfyddydol cyfoes ar gyfer pob grŵp yn dilyn y canlynol:
Dydd Llun, 1-2:30yp, Penybont Canolog, Cerddoriaeth
Dydd Mawrth, 11-1yp, Bro Ogwr, Celfyddydau gweledol
Dydd Mercher, 11-1yp, Betws, Celfyddydau gweledol a chrefft
Dydd Mercher, 11-1yp, Porthcawl, Canu
Dydd Iau, 11-1yp, Maesteg, Ysgrifennu creadigol
Dydd Gwener, 10-11:30yp, Pontypridd, Celfyddydau gweledol a chreft
Dydd Gwener, 1-3yp, Bryngarw, Celfyddydau gweledol
Am beth ydyn ni’n edrych?
Rydyn ni’n edrych am unigolion â:
- Sgiliau creadigol ardderchog i alluogi dosbarthiad llwyddiannus o’r brosiect
- Profiad yn gweithio gyda oedolion mewn gosodiad cymunedol
- Gallu i weithio’n gydweithredol a cyfathrebu’n effeithiol gyda artist arall a phob partner prosiect
- Cyfathrebiad ardderchog profiadol a sgiliau rhyngbersonol gyda pobl ar bob lefel
- Parodrwydd i ymgymryd â dulliau ymarferol o ddatrys problemau
Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau Allweddol
- Datblygu, cynllunio, a rhedeg cyfres o 5 gweithdy creadigol mewn un neu fwy o’r grŵpiau BSI wythnosol
- Gweithio gyda grŵpiau o hyd at 12 oedolyn yn eu hamseroedd sesiwn a lleoliadau arferol (gwelwch uchod ar gyfer amseroedd a lleoliadau)
- Cefnogi’r grŵpiau i greu rhywbeth i gael ei arddangos neu perfformio yn y digwyddiad rhannu yn Gorffennaf
- Cydweithredu gyda’r artist arweiniol a cynorthwywyr llesiant yn y grŵpiau i sicrhau ymrwymiad a llesiant y cyfranogwyr
- Helpu gosod yr arddangosiad/perfformiad a cefnogi rhediant y digwyddiad rhannu yn yr Haf
- Cyfrannu i’r gwerthusiad ac asesiadau risg pan yn angenrheidiol
Gofynion Trefniadol
Byddet ti :
- Â gwiriad DBS cyfoes neu yn barod i ymgymryd ag un
- Yn cynnal proffesiynoldeb i safon uchel
- Yn gweithio’n ystyriol mewn amgylcheddau gwahanol a cynnal cyfrinachedd ar bob achlysur wrth recordio neu’n casglu data ar gyfer y brosiect
- Cydymffurfio â Polisi Iechyd a Diogelwch Tanio a rheoliadau statudol
Telerau ac Amodau
Natur yr Ymrwymiad: Contract llawrydd (hunan-gyfolgedig)
Lle y Gwaith: Lleoliadau amrywiol ar draws bwrdeistref Penybont a Phontypridd
Tâl: £750 i bob lleoliad yn cynnwys cynllunio, paratoi a dosbarthu 5 gweithdŷ. (Er enghraifft, byddai’r tâl yn £2,250 os gweithiaist di mewn 3 lleoliad neu £3,000 os gwnest di 4) Gyda tâl ychwanegol o £175 i bob artist ar gyfer y digwyddiad rhannu.
Hŷd y Contract: Bydd y gweithdai yn dechrau yng nghanol Mai ac i cael eu cyflawni erbyn diwedd Gorffennaf 2025.
Beth i wneud os wyt ti â ddiddordeb?
Danfona lythyr eglurhaol (dim mwy na 500 gair) i ddweud wrthom pa profiad gallet ti cymhwyso at y brosiect, cynllun byr ar gyfer dy gweithdai (dweda wrthom beth byddet efallai yn gwneud a sut – does dim rhaid i’r cynllun fod yn fanwl), a CV cyfoes i:
Rydyn ni hefyd yn hapus i dderbyn ffufiau eraill o gyflwyniad, megis fidio neu sain (5 munud ar y mwyaf).
Terfyn amser y cais yw 9yb ar y 22ain o Ebrill. Byddwn yn ymateb i bob ymholiad.