Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi lansio sgwrs newydd gyda sectorau allweddol am sut rydym ni’n gallu rhoi hwb i’r theatr Gymraeg.

Meddai Henry Rees, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru:

"Yn ystod ymgynghoriad diweddar am Gronfa Loteri Genedlaethol y Cyngor, roedd llawer iawn o gefnogaeth i uchelgais ein cynllun corfforaethol - Er Budd Pawb - i godi gan 10% lefel y cynulleidfaoedd i waith Cymraeg. Nawr rydym ni am ymestyn y sgwrs i'r sector theatrau a lleoliadau, i weld sut mae gwireddu hyn.

"Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod iaith yn ffynnu drwy ei chelfyddydau a’i chreadigrwydd. Bydd diwylliant Cymraeg bywiog yn annog y bobl sy’n medru rhywfaint o Gymraeg i ddefnyddio a chofleidio’r iaith. "

"Dyna pam rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi defnydd a datblygiad y Gymraeg yn ein cymunedau, ein lleoliadau a'n celfyddydau.

"Rydym ni’n ystyried hyn yn gyfraniad hanfodol i gyrraedd targed Llywodraeth Cymru o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’n angenrheidiol hefyd i wireddu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau Dyfodol Cymru.”

Dywedodd Sian Tomos, Cyfarwyddwr Datblygu’r Celfyddydau, Cyngor Celfyddydau Cymru, hefyd:

"Er mwyn gwarantu llwyddiant ein gweledigaeth, rydym ni’n estyn gwahoddiad i theatrau, lleoliadau, cwmnïau cynhyrchu a gweithwyr creadigol ysbrydoledig Cymru ymuno â ni wrth fapio camau nesaf y daith.

"Cyfrifoldebau ar y cyd yw sefydlu ein gwerthoedd cyffredin, datblygu partneriaethau newydd, cael syniadau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a chreu’r amgylchedd i newid.

"Mae llawer o blant a phobl ifanc sy’n dysgu Cymraeg yn yr ysgol. Rydym ni am gael gwaith sy'n annog teuluoedd, plant a phobl ifanc i sylweddoli bod y Gymraeg yn iaith fyw ac yn teyrnasu dros sefyllfaoedd bob dydd. Rydym ni hefyd am gael sioeau a chyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol sy'n hybu a sbarduno’r iaith ymhlith dysgwyr a phobl sy wedi colli’r arfer o siarad Cymraeg.

“Rydym ni hefyd am fuddsoddi mewn mentrau sy'n datblygu gallu a sgiliau’r  gweithwyr creadigol sydd am weithio drwy gyfrwng y Gymraeg inni allu cyflawni ein huchelgais.

“Mae gennym artistiaid a sefydliadau dawnus y tu hwnt yng Nghymru. Rydym am eu gweld yn cyflawni rhywbeth arbennig iawn gan sicrhau twf i’r theatr Gymraeg. Rydym ni am weld y sectorau’n symud ymlaen gyda'n gilydd i’r un cyfeiriad. Byddwn ni’n trefnu cyfres o gyfarfodydd yn y dyfodol agos i sbarduno deialog a rhagor o gydweithio."

Cysylltwch â Henry.Rees@celf.cymru i nodi eich diddordeb mewn bod yn rhan o'r sgwrs sy’n dechrau ar unwaith.

Byddwn ni hefyd yn cynnal digwyddiad agored i’r sector yn Y Lle Celf, Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Llanrwst.