Ydych chi’n barod i fod ar flaen y gad ym maes trawsnewid addysgu a dysgu? 

Bwriad y cynllun Archwilio yw i gynnig cyfleoedd datblygu proffesiynol helaeth i athrawon fynd i'r afael â meithrin ac adeiladu dulliau dysgu creadigol arloesol. Gyda phwyslais penodol ar feysydd allweddol megis llythrennedd, iechyd a lles a gwreiddio creadigrwydd ar draws y cwricwlwm, bydd y sesiynau yn cael eu dylunio er mwyn annog gwell ymgysylltiad a phrofiadau dysgu cynhwysol.

Dan arweiniad tîm profiadol Dysgu Creadigol Cymru, sydd â dros degawd o brofiad a gwybodaeth ddyfnach ar strategaethau addysgu arloesol, ar y cyd â’r Hwyluswyr Hyfforddiant Dysgu Creadigol, bydd Archwilio yn gyflwyniad cadarn i addysgeg Dysgu Creadigol ac yn rhoi’r cyfle i fynychwyr i archwilio arferion gorau, dadansoddi achosion o astudio, ac ymgymryd ag ymarferion fydd yn cael effaith gadarnhaol ar brofiadau dysgu disgyblion.

Bydd 36 o sesiynau wyneb yn wyneb mewn chwe lleoliad ledled Cymru: 2 sesiwn y tymor ym mhob lleoliad (12 sesiwn y tymor).

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadauDydd Iau 7fed Awst 2025
‘Hyfforddi'r hyfforddwr’ Dydd Mercher 1af Hydref 2025
Dyddiau HyfforddiDydd Mawrth neu ddydd Iau yn ystod tymor yr ysgol

 

Beth rydym yn edrych amdano?


Rydym yn edrych am Hwyluswyr Hyfforddiant sydd â/ag:

  • phrofiad helaeth o gyflwyno sesiynau hyfforddi o ansawdd uchel (nid yw profiad yn y sector addysg yn hanfodol)
  • phrofiad o weithio ar un o gynlluniau Dysgu Creadigol Cymru yn y gorffennol, gan gynnwys Ysgolion Creadigol Arweiniol, Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol, Dysgu Creadigol yn y Blynyddoedd Cynnar, a Cynefin: Cymru ddiwylliannol ac ethnig amrywiol.
  • angerdd ac yn credu’n gryf mewn addysgeg a daliadau Dysgu Creadigol Cymru.
  • argaeledd i fynychu sesiwn ‘hyfforddi'r hyfforddwr’ ddydd Mercher 1af Hydref 2025. (amser a lleoliad i'w cadarnhau).
  • ymrwymiad i gyflwyno ar ddydd Mawrth neu ddydd Iau yn ystod tymor yr ysgol.

Byddwch yn cymryd rhan am 5 i 8 diwrnod drwy gydol y flwyddyn academaidd, gyda ffi ddyddiol gystadleuol o £300 ynghyd â threuliau teithio. Rydym yn bwriadu penodi hyd at 6 hwylusydd i ymuno â'r tîm hyfforddi newydd.

Am fanylion llawn ynghylch cymhwysedd a gofynion y swydd, cyfeiriwch at y ddogfen canllaw ymgeisio isod.

Sut i ymgeisio?
Barod i ymuno? Cwblhewch a chyflwynwch eich cais gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Gofalwch eich bod yn gwirio’r ddogfen canllaw ymgeisio yn drylwyr fel eich bod yn ymwybodol o ofynion a disgwyliadau y rôl.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau, 7fed Awst 2025.

 

Sut i gael gwybod mwy?


Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch ag un o aelodau’r tîm Dysgu Creadigol Cymru isod:

Huw Evans – huw.evans@celf.cymru

Shaun Featherstone – shaun.featherstone@celf.cymru

Rosie McConnell – rosie.mcconnell@celf.cymru

CYHOEDDIAD PWYSIG: Cyfleoedd Gwaith Pellach!

Dim ond y dechrau yw'r swyddi Hwyluswyr Hyfforddiant hyn. Rydym yn paratoi i gyhoeddi nifer o gyfleodd gwaith ar draws rhaglen newydd Dysgu Creadigol Cymru. Cadwch lygad am gyhoeddiadau dros yr wythnosau nesaf am rolau megis Partneriaid Dysgu Creadigol i gefnogi’r rhaglen Arbrofi – manylion i’w cyhoeddi 18fed Awst 2025. Bydd y cynllun Arbenigo ar waith yn fuan yn y flwyddyn newydd, ochr yn ochr â rownd newydd o'r Rhaglen Arweinyddiaeth Greadigol.

Gyda'i gilydd, bydd y rhaglenni hyn yn penodi dros 60 o weithwyr creadigol proffesiynol — gan ddarparu cyfleoedd pellach i ehangu eich effaith ar addysg greadigol.

Dysgu Creadigol Cymru – Ysbrydoli creadigrwydd, trawsnewid addysg