Cyfle i Gysgodi ar gyfer Artistiaid sy’n Ferched / Anneuaidd

Ydych chi erioed wedi eisiau dysgu rhagor am yr hyn sy'n digwydd y tu ôl i'r llenni mewn oriel rhwng sioeau, a datblygu sgiliau yn y broses?

Mae Ffotogallery yn chwilio am artistiaid a ffotograffwyr newydd, sy’n uniaethu fel merched neu’n anneuaidd, ac sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am yr hyn sy'n digwydd rhwng arddangosfeydd mewn lleoliadau celf gyfoes, i gael profiad ymarferol o waith technegydd oriel.

Gallai'r cyfle hwn fod yn ddelfrydol i rywun sydd â diddordeb mewn gweithio fel Technegydd Oriel, neu a allai fod eisiau dysgu rhagor am ochr ymarferol y gwaith o osod neu newid arddangosfa. 

Byddwn yn adnewyddu Ffotogallery rhwng 12 a 16 Mai, a byddwn yn defnyddio'r cyfle hwn o newid fel ffordd o gyflwyno mwy o bobl i'r hyn sy’n digwydd y tu ôl i'r llenni wrth baratoi arddangosfeydd. Bydd hefyd yn gyfle i feithrin sgiliau a hyder pobl wrth weithio yn y maes hwn sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion. Ein gobaith yw y bydd gan bobl sy'n cymryd rhan ddiddordeb mewn gweithio gyda ni ac orielau eraill ledled Cymru a thu hwnt yn y dyfodol.

Y dyddiad cau i fynegi diddordeb yw 11:59pm ddydd Iau 1 Mai. Byddwn yn dewis ac yn cysylltu â’r rhai sydd wedi mynegi diddordeb ddydd Gwener, 2 Mai. Rydyn ni’n chwilio am 2–3 unigolyn ar gyfer y cyfle hwn. Byddan nhw’n cael £40 y dydd fel tâl sy'n cyfateb i gyflogau prentisiaeth.

Llenwch y ffurflen isod i fynegi eich diddordeb yn y cyfle hwn:

https://forms.gle/zWZiz43hR26DJqpa9 
 

Dyddiad cau: 01/05/2025