Bydd y Cynorthwyydd Personol yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i gefnogi a chydlynu gweithgaredd aelodau’r tîm a phrosiectau corfforaethol, ond eu prif ffocws fydd darparu cymorth a chefnogaeth weinyddol i’r Cyfarwyddwr Gweithrediadau – Gwasanaethau Ariannu’r Celfyddydau. Bydd hyn yn cynnwys cydlynu cyfathrebu, gohebiaeth, apwyntiadau/rheoli dyddiadur, teithio a threuliau. Bydd hefyd yn cynnwys cynllunio, trefnu a gweinyddu cyfarfodydd.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus profiad blaenorol a perthnasol o ddarparu gwasanaethau gweinyddol o safon uchel a chymorth rheng flaen o fewn tîm bach prysur, sy’n hwyluso gweithio hyblyg/mudol. Bydd ganddynt sgiliau TG datblygedig iawn. Mae’r gallu i weithio o’ch menter eich hun ac i flaenoriaethu yn hanfodol, ynghyd a sgiliau cyfathrebu da ac ymrwymiad i safonau uchel o ran gofal cwsmeriaid.

Gweithiwn drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac mae rhuglder yn y Gymraeg (ar lafar ac yn ysgrifenedig) yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.

Mae ein buddion yn cynnwys oriau/patrwm gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn cyflog terfynol.

Dyddiad cau:                         12:00pm canol dydd, dydd Gwener 26 Mawrth 2021

Cyfweliadau (dros fideo):    Dydd Mercher 14 Ebrill 2021

Dylid anfon ffurflenni cais at AD@celf.cymru

Noder, ni fydd CV yn cael eu derbyn.

Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio ac chroesawn geisiadau gan bob adran o’r gymuned yn Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd hen gynrychiolaeth ddigonol. Bydd mentora neu hyfforddiant yn cael ei ddarparu i berson penodedig yn ystod y cyfnod sefydlu, os bydd angen.

Llawn amser, 37 awr yr wythnos

Parhaol

Gradd B: Cyflog cychwynnol o £23,419

Lleoliad: Caerdydd

Dogfen04.03.2021

Cynorthwyydd Personol