Rydym yn gwarchod popeth o ystlumod i adeiladau i draethau - a hoffem eu rhannu â phawb hefyd. Ond sut ydym yn gofalu am ein lleoedd arbennig, wrth helpu pawb i fwynhau'r lleoedd hyn a'u straeon rhyfeddol? Nid tasg fechan ydyw. Yn wir, mae'n ymdrech tîm a dyna pam mae ein Cynorthwywyr Casgliadau mor bwysig.
Ar gyfer y swydd hon, bydd angen ichi gwblhau ein hasesiad ar-lein yn hytrach na defnyddio C.V. neu ffurflen gais ar-lein. Bydd hyn o gymorth i ni ddeall mwy am eich cryfderau ac i chi gael mewnwelediad i’r swydd.
Dyddiad cau: 18/05/2025