Mae 4Pi productions yn chwilio am unigolion brwdfrydig ar gyfer dau leoliad gwaith â chyflog. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio fel Cynorthwywyr Cynhyrchu yn Labordy CULTVR, canolfan draws-ddisgyblaeth drochol gyntaf y DU.

Mae’r lleoliad gwaith yma’n gyfle delfrydol i unrhyw un sy’n awyddus i gael blas ar wahanol agweddau o yrfa yn y diwydiannau creadigol a digidol – yn enwedig ym meysydd cynhyrchu digwyddiadau a chyfryngau trochol. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael cefnogaeth tîm profiadol 4Pi Productions a phrofiad o amrywiaeth eang o brosesau artistig a thechnegol.

Prif Gyfrifoldebau

  • Paratoi a Gosod Digwyddiadau
    Helpu gyda’r gwaith o baratoi a gosod lleoliadau lle cynhelir digwyddiadau, a thynnu’r cyfan i lawr ar ôl gorffen – yn cynnwys goleuo, sain, seddau, arwyddion, sicrhau nodweddion hygyrchedd. Yn ogystal – sicrhau bod y ganolfan yn ddiogel, glân ac yn barod ar gyfer cynulleidfaoedd.
  • Cynorthwyo’r Gynulleidfa a Chyfrifoldebau Blaen Tŷ
    Croesawu ymwelwyr a gwesteion, darparu gwybodaeth am y ganolfan a digwyddiadau a helpu i sicrhau llif esmwyth perfformiadau a chysur y gynulleidfa drwy gydol y profiad.
  • Cymorth Technegol a Chynhyrchu
    Gweithio’n agos gyda thîm technegol CULTVR i helpu gyda goleuo, sain, taflunio a gosodweithiau cyfryngau trochol. Rhoi cymorth gydag ymarferion, gwiriadau technegol a helpu i ddatrys problemau bach yn ystod digwyddiadau.
  • Helpu gyda Dogfennu Creadigol a Chymorth Cyfryngau Cymdeithasol
    Helpu i sicrhau cynnwys ffotograffig a fideo at ddibenion hyrwyddo ac ar gyfer yr archif. Helpu gyda diweddariadau amser real ar ein cyfryngau cymdeithasol a gwahanol fathau o gynnwys gweinyddol – gan ddilyn canllawiau brandio.

Sgiliau a Phrofiad Angenrheidiol

  • Diddordeb yn, neu ddealltwriaeth elfennol o’r broses o gynhyrchu digwyddiadau, cymorth technegol, cyfryngau trochol a/neu ymgysylltu â chynulleidfa.
  • Profiad blaenorol (cyflogedig neu wirfoddol) o ddigwyddiadau, cynhyrchu, rolau technegol, neu sgiliau perthnasol neu drosglwyddadwy eraill.
  • Sgiliau trefnu cryf a’r gallu i weithio’n annibynnol a gallu cyflawni gwaith o fewn terfyn amser.
  • Agwedd gadarnhaol a rhagweithiol, parodrwydd i ddysgu a’r gallu i weithio’n effeithiol fel rhan o dîm.

Dyddiau ac Oriau Gwaith

Mae hon yn rôl ran-amser – sy’n cynnwys 200 o oriau dros gyfnod o 10 wythnos. Trefniant hyblyg, gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc.

Bydd gofyn i chi fod ar gael (rhwng 10am a 5pm) ar 5, 6 a 12 Gorffennaf, a 2, 3 Awst i gymryd rhan mewn sesiynau hyfforddiant clyweledol.

Dyddiad Cychwyn

Yr wythnos sy’n cychwyn ar 30 Mehefin 2025, efallai y bydd gofyn i chi gychwyn yn gynharach – yn ddibynnol ar amserlennu.

Sut i Wneud Cais

Cwblhewch y Ffurflen Google yma gan amlinellu pam fod diddordeb gyda chi yn y rôl, eich argaeledd, a’ch profiad a sgiliau yn erbyn y meini prawf uchod.

https://forms.gle/agFeK93BvpeWFvCr8

Gallwch gyflwyno’ch cais yn Gymraeg neu Saesneg.

I unigolion sy’n F/fyddar, ag amhariad ar eich clyw, anabl, niwrowahanol neu ag amhariad ar eich golwg, mae cefnogaeth bellach ac addasiadau ar gael. Cysylltwch â ni os oes gyda chi unrhyw anghenion arbennig.

Dyddiad Cau i Geisiadau: 

Dydd Mawrth 10 Mehefin 2025 / 17:30

Cyfweliadau: Yr wythnos sy’n cychwyn ar 16 Mehefin – ar Zoom
 

Dyddiad cau: 10/06/2025