Mae Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru yn awyddus i benodi Cynhyrchydd Dan Hyfforddiant ThCIC llawn-amser i ymuno a’r tîm.

Cynhyrchwyd gyda chefnogaeth Llywdodraeth Cymru drwy Cymru Greadigol.

Cyflog: £22,932 y flwyddyn (yn seiliedig ar y Cyflog Byw Gwirioneddol o £12.60) 

Llawn amser (35 awr yr wythnos) Chwefror 2025 – Mawrth 2026

Lleoliad: Swyddfa Caerdydd, gyda gweithio hyblyg yn bosib, a rhywfaint o deithio ledled Cymru gan gynnwys gwaith achlysurol gyda'r nos ac ar benwythnosau 

Dyddiad cau: 11.59pm ddydd Llun 16 Rhagfyr 

Cyfweliadau: Wythnos yn dechrau 6 Ionawr 

Dyddiad Cychwyn: Wythnos yn dechrau 3 Chwefror (neu mor agos â phosibl yn dibynnu ar unrhyw gyfnodau rhybudd)

Yn Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, ein cenhadaeth yw grymuso'r genhedlaeth nesaf o gerddorion, actorion, dawnswyr a gwneuthurwyr i adeiladu dyfodol creadigol, hyderus a hael i Gymru.

Am y Swydd

Fel Cynhyrchydd dan Hyfforddiant ThCIC, byddwch yn gweithio'n benodol ar bopeth yn ymwneud â ThCIC, gan roi cyfle i gael profiad ymarferol a hyfforddiant pwrpasol i uwchsgilio mewn meysydd fel rheoli prosiectau, diogelu, marchnata a chyllidebu. Byddai'r rôl hon yn berffaith i rywun sy'n dymuno gweithio ym maes cynhyrchu/rheoli prosiectau a gweinyddu'r celfyddydau yn y diwydiannau creadigol a pherfformio, yn benodol ar ein rhaglen Llwybrau Proffesiynol ThCIC 2025 estynedig. 

Gwelir Pecyn Swydd ar gyfer manylion llawn y rôl.

Manyleb y Person

Nid yw profiad gwaith yn hanfodol ar gyfer y swydd hon – mae gennym ddiddordeb yn dy botensial a’r profiadau eraill sydd gennyt allai dy wneud yn addas ar gyfer y rôl hon. Rydyn ni eisiau rhywun sy'n frwdfrydig, ymroddedig, gydag egni ac angerdd ac awydd i ddatblygu gyrfa yn y sector diwylliannol. 

Fodd bynnag, mae meini prawf cymhwysedd penodol y bydd rhaid iti eu cyflawni:  

  • Mae rhaid i ti fod dros 20 ac o dan 25 oed ar adeg dy benodi  
  • Os wyt ti’n ymgeisio fel rhywun sydd wedi gadael yr ysgol neu’r coleg bydd rhaid i ti fod wedi derbyn yr LCA trwy gydol dy gyfnod yn astudio a bod â’r gwaith papur i gadarnhau hyn  
  • Os wyt ti’n ymgeisio fel person sydd wedi graddio, mae rhaid iti fod wedi derbyn grant cynhaliaeth llawn oddi wrth Lywodraeth Cymru trwy gydol cyfnod dy radd a bod â’r gwaith papur i gadarnhau hyn  
  • Mae rhaid iti fod yn byw yng Nghymru a bod a hawl i weithio yn y DU  

Mae'r rôl lefel mynediad hon wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer person ifanc 20-25 mlwydd oed o gefndir heb gynrychiolaeth ddigonol, fel rhan o'n Cynllun Gweithredu Cadarnhaol. Mae'r cymunedau sydd wedi'u tangynrychioli rydyn ni’n eu blaenoriaethu fel a ganlyn: 

- Pobl ifanc o gefndir Mwyafrif Byd-eang 

- Pobl ifanc B/byddar, anabl a/neu niwrowahanol 

- Pobl ifanc o deuluoedd incwm is 
 

Dyddiad cau: 16/12/2024