Mae Music Theatre Wales (MTW) yn chwilio am Gynhyrchydd Cymunedol i gefnogi ein rhaglen gwaith creadigol ym Nhrebiwt a Threlluest. Rydym angen rhywun sy’n benderfynol ar ddod â phobl o’r cymunedau hyn at ei gilydd a meithrin eu potensial; rhywun a fydd yn grymuso pobl o bob oedran i ymuno â ni i archwilio beth all opera fod, a beth ddylai opera fod, o fewn cymdeithas heddiw – fel cynulleidfaoedd, cyfranogwyr, hwyluswyr a chrewyr.

 Efallai eich bod yn hwylusydd profiadol, trefnydd cymunedol neu wedi gweithio'n flaenorol yn trefnu neu hyrwyddo digwyddiadau. Yr hyn sy’n bwysig, yw eich bod yn gyffrous am y syniad o symbylu pobl i ddod ynghyd yn eu cymuned, datblygu eu creadigrwydd, ysgwyd y sector celfyddydol, a dod ag opera yn ôl i gysylltiad â mwy o bobl.

Cyflog: £26,100 cyfanswm ffi’r contract (sy’n cyfateb i £210 y dydd)
Oriau: Tua 11 awr neu 1.5 diwrnod yr wythnos (i’w weithio’n hyblyg)
Lleoliad: Hyblyg a hybrid
Yn debygol o fod wedi’i leoli ym Mhafiliwn Grangetown a Chanolfan Diwylliant a’r Cyfryngau Loudoun (CMC), gyda rhywfaint o waith yn swyddfeydd MTW yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd, yn ogystal â gwaith o gartref y deiliad.
Cytundeb: 21 mis – Awst 2025 i Ebrill 2027
Dyddiad Cau: Dydd Mercher 4 Mehefin 2025
Cyfweliadau: Dydd Llun 17 + Dydd Mawrth 18 Mehefin 2025

Ynglŷn â MTW
Mae MTW wedi bod yn rym dros newid a datblygiad ym maes opera yn y DU, gan greu cyfleoedd trawsnewidiol i artistiaid a chynulleidfaoedd greu a chael mynediad at opera gyfoes, yn aml am y tro cyntaf. Yn 2021, aethom ar daith newydd, gan ofyn: Beth sydd angen i opera ei wneud NAWR i chwarae rôl hanfodol ym mywyd cyfoes?

Gyda hanes o greu gwaith arloesol, rydym wedi troi’r cwestiynau at ein hunain – pa werth allwn ni ei ddod i gymdeithas fel crewyr opera newydd? Ein hateb yw ailddychmygu beth yw opera, a chreu gwaith sy’n wirioneddol adlewyrchu Cymru a’r DU fel ag y mae heddiw. Byddwn yn cyflawni hyn trwy wahodd yr artistiaid hynny sydd wedi cael eu hanwybyddu neu eu hallgáu o fyd opera i ddod â’u sgiliau, eu gweledigaeth, eu straeon a’u cerddoriaeth i ffurf sydd yn dyheu am gyfeiriad newydd ac am gynulleidfa newydd.

Ein nod yw dod ag opera yn ôl at fwy o bobl a chymunedau.

Mae Music Theatre Wales ynail-ddychmygu opera.

Rydym yn gofyn:

Beth yw Opera? Pwy sy’n ei greu? A phwy yw’r gynulleidfa?

 Mae MTW yn elusen gofrestredig ac yn derbyn cyllid aml-flwyddyn gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

CYDRADDOLDEB A CHYNHWYSIANT
Yn MTW, rydym wedi ymrwymo i sicrhau mwy o gydraddoldeb fel sefydliad ac fel cyflogwr. Ein nod yw sicrhau nad yw unrhyw un yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd nodwedd warchodedig. Credwn fod hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol, ac nad yw cwotâu yn ddigonol oni bai bod diwylliant sefydliadol yn newid hefyd. Mae newid yn digwydd ar draws ein sefydliad – yn y gwaith rydym yn ei greu, y bobl sy'n ei greu, y bobl rydym yn eu cyrraedd, ac yn ein Bwrdd Ymddiriedolwyr a’n staff.

Rydym yn annog ceisiadau gan ystod eang o gefndiroedd, gyda sgiliau a phrofiadau gwahanol i'w cyfrannu i’n sefydliad. Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu, rydym yn cynnig cynllun cyfweliad gwarantedig i ymgeiswyr sy’n bodloni’r gofynion lleiaf ar gyfer y swydd ac sy’n anabl, yn niwroamrywiol, neu'n bobl o'r mwyafrif byd-eang.

Os hoffech ragor o wybodaeth cyn gwneud cais, neu os am gael sgwrs anffurfiol am y rôl, cysylltwch â: kathryn@musictheatre.wales   

Dyddiad cau: 04/06/2025