Tîm Dysgu Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n croesawu digwyddiad Rhwydwaith Addysg y Celfyddydau a Diwylliant (ACEnet). Bydd Dysgu Creadigol Cymru y Cyngor yn dathlu 10 mlynedd o’i waith sydd wedi trawsnewid addysgu a dysgu drwy'r celfyddydau ledled Cymru.
Meddai Siân James, Rheolwr Rhaglen Dysgu Creadigol Cymru:
"Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod at ein gilydd gyda dros 30 partner o bob cwr o Brydain ac Ewrop, yn enwedig wrth ddathlu ein pen-blwydd yn 10 oed. Rydym wedi trefnu rhaglen lawn sy’n cynnwys trafodaethau panel, sesiynau creadigol ymarferol, trafodaethau ar y cyd am weithredu polisïau addysg gelfyddydol a gweithgareddau myfyriol i ddyfnhau ein cyd-ddealltwriaeth o ddysgu a gwerthuso creadigol."
Bydd cynrychiolwyr hefyd yn ymweld ag ysgolion yng Nghaerdydd – Ysgol Gynradd Moorland ac ysgol hamadryad i weld dysgu creadigol ar waith.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle AS:
"Dwi’n falch bod Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal y fforwm pwysig i lunwyr polisi addysg gelfyddydol a diwylliannol o bob cwr o Ewrop. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y pwysigrwydd o gefnogi sgiliau creadigol. Yng Nghwricwlwm Cymru mae creadigrwydd yn un o'r sgiliau annatod o'i 4 diben. Mae’n allweddol i helpu ein pobl ifanc i feithrin eu doniau a'u sgiliau a datblygu ein cenhedlaeth nesaf o ddinasyddion llawn sy'n cymryd rhan ym mhob agwedd ar fywyd a gwaith.
Un o'n llwybrau allweddol o gefnogi creadigrwydd, i ddysgwyr ac ymarferwyr, yw'r rhaglen Dysgu Creadigol drwy'r Celfyddydau. Gan ei bod ar waith ers 2015 gydag arian y Cyngor a’r Llywodraeth, mae'n briodol dathlu ei llwyddiannau sylweddol yn rhan o'r digwyddiad."