Mae Beacons Cymru yn falch iawn o gyhoeddi cyfle cyffrous i gerddorion sesiwn a chynhyrchwyr y dyfodol trwy Gymru i weithio gydag artistiaid o Brosiect Forté mewn cydweithrediad gyda PPL Giving. Ym mis Gorffennaf 2025, bydd tri artist unigol yn cael cwmni detholiad o gerddorion sesiwn a chynhyrchwyr i drefnu a recordio trac mewn stiwdio broffesiynol.

A’i dyma’r cyfle i chi? 

Ni'n edrych am:

  • 9 cerddor sesiwn
  • 3 cynhyrchydd

i fynd gyda 3 artist unigol o deulu presennol Forté. Ar y cyd ag artist, byddwch yn cydweithio i drefnu, ymarfer, a recordio trac mewn stiwdio recordio broffesiynol.

Pa gyfleoedd gewch chi?

  • Cyfle cyflogedig (ar gyfer gwaith sesiwn a/neu waith cynhyrchu)
  • Gweithdai a dosbarthiadau meistr defnyddiol mewn gwaith sesiwn, recordio, cynhyrchu ar gyfer artistiaid a busnes cerddoriaeth
  • Sesiwn ar-lein ar PPL gyda chanllawiau ar sut i gofrestru ar ei gyfer
  • Sgil proffesiynol a chyfle i ddatblygu rhwydwaith
  • Trac llawn wedi'i gynhyrchu a'i ryddhau trwy label Beacons Cymru gyda'ch enw yn y credydau
  • Costau teithio wedi'u had-dalu

Cymwysterau:

  • 18+ oed
  • Wedi'i leoli yng Nghymru
  • Bod â lle ac argaeledd ar gyfer ymarferion a recordio ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2025 (ar gyfer cerddorion sesiwn)
  • Bod â chapasiti ac argaeledd ar gyfer cynhyrchu, cymysgu a meistroli gwaith ym mis Gorffennaf ac Awst 2025 (ar gyfer cynhyrchwyr)

Tâl yn seiliedig ar gyfraddau'r Musicians Union.

DYDDIAD CAU: 07.05.25

Mwy o wybodaeth am PPL:

PPL yw cwmni trwyddedu cerddoriaeth y DU ar gyfer dros 140,000 o berfformwyr a deiliaid hawliau recordio. Mae PPL yn casglu ac yn dosbarthu arian ar ran perfformwyr a chwmnïau recordio at ddefnydd eu cerddoriaeth wedi'i recordio. Mae aelodaeth PPL am ddim ac yn gyfle gwych i gerddorion sesiwn gael eu talu am eu gwaith perfformio.

Mwy o wybodaeth am Brosiect Forté:

Mae Forté Project yn gynllun datblygu artistiaid unigryw sydd wedi helpu’n llwyddiannus i ffeindio a chefnogi cerddoriaeth newydd gyffrous sy’n dod i’r amlwg o Gymru. Ers ei sefydlu yn 2015, mae’r cynllun datblygu artistiaid blynyddol arloesol hwn wedi creu model cynhwysfawr i rymuso a chodi 10 act gerddorol ifanc mewn moment hollbwysig yn eu gyrfaoedd.
 

Dyddiad cau: 07/05/2025