Ffotogallery – Galwad am Artistiaid

Mae Ffotogallery yn gobeithio comisiynu dau artist gwahanol, sy’n gweithio gyda chyfryngau ffotograffig a chyfryngau’r lens, i greu gweithiau celf newydd wedi eu hysbysu gan gynnwys archif Ffotogallery, a chreu gweithiau sy’n adeiladu ar amcanion cyfranogol ein prosiect Archif a’i ffocws ar y gymuned, wedi ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Mae Ffotogallery yn cynnig £2,000 i artist anabl greu gwaith celf newydd, a £2,500 i artist LHDTC+ greu gwaith celf newydd a darparu gweithdy sydd â ffocws cymunedol.

Bydd Ffotogallery yn talu holl ffïoedd a deunyddiau’r arddangosfa, a threuliau eraill a allai fod yn ofynnol gan yr artistiaid wrth iddyn nhw ddarparu eu gwaith.

Mae hefyd hyd at £200 ar gael, fesul artist, ar gyfer treuliau teithio.

Dilynwch y ddolen isod i gyflwyno eich cais.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw Dydd Mawrth 10 Mehefin, 5:00 PM
 

Dyddiad cau: 10/06/2025