Cyfle comisiwn i artistiaid newydd (18-30 oed)! 

Platfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni  

Ffi artist o £2500 + chyllideb deunydd  

Dyddiad cau 9am 14 Ebrill 2025  

Rydyn ni’n falch o gael rhannu cyfle i gasgleb neu artist rhwng 18 a 30 oed, sy’n byw neu’n gweithio o fewn awr i safleoedd Peak, greu gwaith celf ar gyfer ffenestri gofodau Platfform 2 Peak. Dyma fydd y trydydd comisiwn, a’r comisiwn olaf, yn nhymor 2024-25, yn dilyn gwaith comisiwn Cymraeg Ddrwg gan Ffion Williams a Place of Transit gan Zeta Zentella, sy’n cael ei arddangos ar hyn o bryd.  

I siapio’r alwad agored, rydyn ni wedi cydweithio gyda’r awdur a’r artist Kandace Siobhan Walker, a gafodd ei magu ar y gororau cyfagos.  

Pan fydd ffiniau’n cael eu llunio, mae agoriadau’n cael eu creu. Mae’r frwydr i ddiffinio pwy a ble ydyn ni yn gallu bod yn drawsnewidiol, gan newid ein dealltwriaeth o hunaniaeth a lle.  

Pam mae gororau yn aml yn safleoedd o wrthsafiad, adenilliad ac adnewyddiad?  

Pa ffurfiau diwylliannol, ieithyddol ac artistig unigryw sydd wedi tarddu o ororau?  

Pa bosibiliadau gwyllt a rhyfedd sydd wedi deillio o’r tensiwn yma — a beth arall allai godi ohono?  

Lawrlwythwch y canllawiau llawn drwy ein gwefan a chysylltwch â cerian@peak.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, os ydych chi eisiau trafod syniad, neu i gael cymorth i wneud cais.  

Ffurflen Google fer yw’r mynegiant o ddiddordeb, ac rydyn ni’n croesawu ffyrdd eraill o gyflwyno’ch syniad (gweler y canllawiau).  

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 9am 14 Ebrill 2025 
 

Dyddiad cau: 14/04/2025