Ydych chi’n angerddol am ddarparu mynediad i bobl i weithgareddau celfyddydol? Oes profiad gennych o gydlynu prosiect gyda grŵp cymunedol? Efallai dyma’r cyfle i chi.
Ry’n ni’n chwilio am Gydlynydd Cyfranogi i ymuno â’r cwmni am gyfnod o flwyddyn o fis Medi 2025. Mae gwaith cyfranogi yn elfen hollbwysig o waith y cwmni ac ry’n ni’n falch iawn o’r ystod eang o gyfleoedd rydyn ni’n eu cynnig i bobl ymwneud â’r celfyddydau.
Fel Cydlynydd Cyfranogi, bydd cyfle i chi fod yn rhan o’r broses gynllunio ar gyfer rhaglen gyfranogi 2026 yn ogystal â chydlynu a chynnal y rhaglen o weithgareddau ar gyfer 2025. Mae cydweithio a chynnal cysylltiadau’n gwbl allweddol ac yn y rôl hon bydd cyfle i gydweithio gydag ystod eang o bartneriaid a chyfranogwyr, a chreu cysylltiadau newydd.
Cyflog: £32,887 y flwyddyn
Cyfnod: 12 mis o 1 Medi 2025
Oriau: Llawn Amser (37.5 awr yr wythnos)
Rydym hefyd yn hapus i ystyried ceisiadau i weithio'n rhan amser.
Mae rhagor o wybodaeth am y swydd, y cwmni a sut i ymgeisio yn y pecyn recriwtio ar ein gwefan.
I gael sgwrs anffurfiol am y swydd – neu i drafod sut y gallwn ni eich cefnogi i ymgeisio am y swydd - cysylltwch ag Angharad Jones Leefe ar angharad.leefe@theatr.com neu 07903 842554.
Dyddiad cau: 2 Mehefin, 5pm
Cyfweliadau: 11 Mehefin 2025
Mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg – ar lafar ac yn ysgrifenedig – yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Mae’r cwmni yn cynnig cyfleoedd i ymgeiswyr llwyddiannus i fynychu hyfforddiant gloywi iaith os ydynt am ddatblygu eu hyder yn eu sgiliau iaith Gymraeg.