Mae haint Coronavirus wedi rhoi pawb mewn sefyllfa hynod anodd. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU wedi cynghori pobl i osgoi mannau cyhoeddus prysur megis tafarndai, clybiau a theatrau. Yn amlwg mae hyn â goblygiadau ar gyfer cynllun Noson Allan.
O ystyried yr amgylchiadau presennol, rydym yn holi i hyrwyddwyr sydd â digwyddiadau wedi eu rhaglennu dros y 12 wythnos nesaf i ystyried yn ofalus pa un ai i fwrw ymlaen ai peidio. Os fyddwch chi’n penderfynu canslo’r digwyddiad, byddwn yn llacio amodau safonol ein cytundeb a thalu hyd at ddwy ran o dair o ffi’r perfformiwr, ar gyfer unrhyw sioe sy’n costio £900 neu lai. Ar gyfer y sioeau rheini sy’n costio dros £900, fe wnawn dalu ein cyfraniad ariannol uchaf sef £600.
Ni fyddwn yn disgwyl taliad oddi wrth hyrwyddwyr yng nghyswllt digwyddiadau sy’n cael eu canslo.
Rydym hefyd wedi penderfynu peidio ag ymrwymo i unrhyw geisiadau newydd i gynllun Noson Allan yn ystod Ebrill, Mai a Mehefin, oni bo’r sefyllfa yn newid. Byddwn yn parhau i fonitro’r sefyllfa yn agos a’n gobaith yw ail-agor y cynllun ymhen y rhawg, yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth.
Rydym yn gwybod cymaint y mae pobl yn gwerthfawrogi’r gweithgareddau a hyrwyddir trwy Noson Allan, ac er gwaetha’r cyfnod anodd hwn, mae’r angen ar gyfer y digwyddiadau hyn yn amlycach nag erioed. Edrychwn ymlaen at weld perfformiadau yn cael eu llwyfannu unwaith eto cyn gynted a’i bod hi’n ddiogel i wneud hynny yn unol â’r cyngor swyddogol. Yn y cyfamser, arhoswch yn ddiogel ac edrychwn ymlaen at siarad â chi eto yn fuan. Pe hoffech gyngor mwy cyffredinol ynghylch ymateb CCyngor Celfyddydau Cymru i haint Coronafeirws yna mae i'w gael yma.