Bob blwyddyn mae is-bwyllgor Celf a Chrefft Gweledol yr Eisteddfod yn comisiynu prosiect arbennig. Eleni, mae'r pwyllgor yn awyddus i gomisiynu artist o Gymru neu wedi’i leoli yng Nghymru i gynhyrchu gwaith celf newydd ar gyfer ardal goediog ym Mharc Ynysangharad sy'n cynnig cyfle i ymwelwyr brofi ac ymgysylltu â chelfyddyd gyfoes. Ciliwich isod i ddarganfod mwy am y briff.

Dyddiad cau: 23:59, 21 Ebrill 2024

Cyllideb: £9,500

Mewn ymgynghoriad â Oriel Celf Gyfoes Genedlaethol i Gymru (OCGGC) - Mae oriel celf gyfoes genedlaethol Cymru yn fenter newydd sy’n cael ei datblygu ar draws deuddeg sefydliad partner yng Nghymru. Ei nod yw cynyddu mynediad i'r casgliad cenedlaethol ac ymgysylltu yn ogystal â chyd-greu cyfleoedd ar gyfer arfer cyfoes. Caiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Brîff a manylion sut i wneud cais ar gael o'r wefan

Dyddiad cau: 21/04/2024