Mae Maint Cymru yn chwilio am Gadeirydd newydd i arwain Bwrdd yr Ymddiriedolwyr (11 ar hyn o bryd), i helpu i lywio ac arwain ein helusen ar adeg pan mai newid hinsawdd yw’r mater mwyaf critigol sy’n wynebu ein planed. Mae hefyd yn amser pan fyddwn yn llunio strategaeth 5 mlynedd newydd, a bydd y Cadeirydd yn flaenllaw yn hyn o beth.

Mae hwn yn gyfle arweinyddiaeth a gwneud newid cyffrous i bobl o bob cefndir sydd eisiau gwneud rhywbeth arwyddocaol ynghylch yr argyfwng hinsawdd. Byddwch yn dod yn aelod o’r Bwrdd Ymddiriedolwyr ac yn arwain y Bwrdd Ymddiriedolwyr ac yn gweithio gyda’ch gilydd, gan ddod â’ch profiad, eich meddyliau a’ch doethineb byw i’r rôl. Mae’r Bwrdd yn grŵp croesawgar o bobl, sydd yn barod ac yn awyddus i gefnogi ei gilydd a’r tîm.

Rydym yn dathlu amrywiaeth meddwl a phrofiad bywyd, ac yn gydnabod y cryfder a’r deinameg y mae hyn yn ei gynnig. Rydym yn croesawu’n arbennig ceisiadau gan bobl o gefndiroedd ethnig amrywiol, y gymuned LHDTC+, a phobl anabl wrth i ni geisio gwella amrywiaeth ein Bwrdd. Mae Maint Cymru wedi ymrwymo i ddod yn elusen wirioneddol gynhwysol a gwrth-hiliol, ac ar daith weithredol i gyflawni hyn.
 

Dyddiad cau: 30/05/2025