Rydym yn chwilio am ymddiriedolwyr â chefndir tra sylweddol naill ai ym myd arian, masnach, neu'r celfyddydau a diwylliant i atgyfnerthu cryfderau ein Bwrdd yn y meysydd hyn. Bydd gennych brofiad o weithio ar lefel strategol ac o lywio dewisiadau strategol lefel uchel a chymhleth sydd â goblygiadau i ddyfodol sefydliad. Byddwch hefyd yn gallu ychwanegu gwerth i fentrau lle mae gweithgareddau busnes, elusennau a llywodraeth an-adrannol yn rhyng-gysylltu. Bydd yr ymgeiswyr delfrydol yn unigolion cyflawn sy'n cyfuno diddordeb ac angerdd at genhadaeth gyffredinol y British Council. Bydd ganddynt alluoedd deallusol rhagorol, meddwl ymholgar ac agwedd bositif yn ogystal ag uniondeb personol o'r radd uchaf a'r gallu i gynnal ac adeiladu ar werthoedd y sefydliad. Byddant yn frwd dros fywyd a chymdeithas gyfoes y Deyrnas Unedig yn ogystal â meddu dealltwriaeth gadarn ohonynt.

Byddem yn arbennig o falch o glywed gan ymgeiswyr o'r gwledydd datganoledig, rhanbarthau Lloegr ac unigolion â phrofiad o fyw mewn gwledydd eraill lle mae'r British Council yn gweithio yn ogystal ag ymgeiswyr o'r Mwyafrif Byd-eang.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys y Swydd Ddisgrifiad, Manyleb y Person a gwybodaeth am sut i ymgeisio, ewch i https://candidates.perrettlaver.com/vacancies gan ddefnyddio'r rhif cyfeirnod perthnasol isod:

Ymddiriedolwr Celfyddydau a Diwylliant – 7557

Ymddiriedolwr Masnachol – 7490

Ymddiriedolwr Ariannol – 7558

Os ydych yn dymuno ymgeisio, bydd gofyn i chi anfon CV (yn cynnwys manylion cynhwysfawr am gyflawniadau a chyfrifoldebau allweddol) ynghyd â llythyr yn ymdrin â'r cymwyseddau a amlinellir yn y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb y Person.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw: 9:00am ddydd Llun 14 Hydref 2024

Rhoddir cefnogaeth i'r British Council gyda'r broses o wneud yr apwyntiadau hyn gan gwmni chwiliadau dethol Perrett Laver. Dylid cyfeirio unrhyw ymholiadau cychwynnol at sylw Isabela Betoret yma: isabela.betoret@perrettlaver.com a/neu +44 (0)20 7340 6248.

Hygyrchedd a Mynediad

Am sgwrs yn gyfrinachol, cysylltwch ag Isabela Betoret yma: isabela.betoret@perrettlaver.com a/neu +44 (0)20 7340 6248.

Os ydych am dderbyn y dogfennau hyn mewn fformat gwahanol, cysylltwch ag Anna Sloan yma: anna.sloan@perrettlaver.com.

Os oes gennych sylwadau a fyddai'n ein helpu i wella mynediad at ein dogfennau neu ein proses ymgeisio'n gyffredinol, mae croeso i chi gysylltu â ni yma:  accessibility@perrettlaver.com.

Cynhwysiant 

Mae Perret Laver yn credu y daw rhagoriaeth drwy gydnabod gwerth pob unigolyn. Mae'r amrywiaeth eang o safbwyntiau, cefndiroedd a barn sydd gan ein cymuned fyd-eang o gyd-weithwyr yn allweddol i gynnal ein diwylliant o fod yn agored, yn ddeallusol chwilfrydig a chreadigol. Rydym yn weithgar o ran cefnogi cymunedau a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i wella cyfleoedd a sicrhau cynrychiolaeth decach yn arweinyddiaeth pob math o sefydliadau. Rydym hefyd yn gwybod fod timoedd sy'n amrywiol a chynhwysol yn cael effaith bositif ar ein gallu i ganfod, ymgysylltu, a sicrhau ymgeiswyr o'r grwpiau hyn.

Mae ein hymrwymiad i gynhwysiant o ran hil, rhywedd, oedran, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth a phrofiad yn gyrru ein gwaith bod dydd - ar ran ein cleientiaid, wrth ganfod ymgeiswyr ac wrth recriwtio a chadw cydweithwyr.

I sicrhau ein bod yn gynhwysol o ran oedran, anabledd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, amgylchiadau teuluol, rhywedd, hunaniaeth rhywedd, statws priodasol, cenedligrwydd, cred wleidyddol neu grefyddol, hil, cefndir cymdeithasol-economaidd, cyfeiriadedd rhywiol, hoffem wahodd ceisiadau gan unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Diogelu Data a Phreifatrwydd

Mae diogelu eich data personol yn fater o'r pwys mwyaf i Perrett Laver ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Rydym yn dal a phrosesi unrhyw wybodaeth a gesglir gan ein hadrannau masnachu yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data perthnasol. Mae'r data a roddwch i ni yn cael ei storio'n ddiogel ar ein bas data cyfrifiadurol a'i drosglwyddo i'n cleientiaid at ddibenion eich cyflwyno fel ymgeisydd a/neu ystyried a ydych yn addas ar gyfer y rôl yr ydych wedi mynegi diddordeb ynddi.

Yn unol â diffiniadau'r Rheoliad Diogelwch Data Cyffredinol (GDPR) mae Perrett Laver yn Rheolwr Data ac yn Brosesydd Data; 'Buddiannau Dilys' yw ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesi eich data. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu i ni brosesu eich data personol yn y modd yma. Am fwy o wybodaeth am hyn a'n dull gweithredu o ran Diogelu Data a Phreifatrwydd, gweler adran berthnasol ein gwefan yma: http://www.perrettlaver.com/information/privacy/.   

British Council

Sefydlwyd y British Council yn 1934. Mae'n elusen a wnaed yn gorfforaeth drwy Siarter Frenhinol a'i nod yw hybu heddwch a ffyniant drwy feithrin cysylltiadau, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth rhwng pobl yn y Deyrnas Unedig a gwledydd ledled y byd. Rydym yn cyflawni ein cenhadaeth drwy gyfuniad unigryw o gyfoeth arbenigedd y Deyrnas Unedig ym maes y celfyddydau a diwylliant, addysg a'r iaith Saesneg, ein presenoldeb byd-eang a'n cysylltiadau mewn dros 100 o wledydd, a'n mynediad digyffelyb at bobl ifanc, sy'n golygu ein bod yn ymgysylltu â 650 miliwn o bobl ledled y byd trwy weithgareddau wyneb i wyneb, sianelu digidol, cyhoeddiadau a chyfryngau darlledu. 

Mae gyda ni adran sylweddol yn ymwneud â dysgu ac asesu Saesneg sy'n cynhyrchu refeniw sy'n ein helpu i hybu ein hamcanion. Rydym hefyd yn gorfforaeth gyhoeddus a chorff cyhoeddus an-adrannol sy'n derbyn cymorth grant gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu (FCDO). Felly mae gennym strwythur llywodraethu unigryw, ac rydym yn gweithredu dan amodau craffu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae gyda ni ddull gweithredu hir-dymor o ran meithrin cysylltiadau - hyd braich oddi wrth y llywodraeth, gan weithio gyda llywodraethau a'n partneriaid yn y sectorau diwylliant, addysg a'r iaith Saesneg yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang. Rydym hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gydag unigolion i'w helpu i ennill y sgiliau, hyder a chysylltiadau i drawsnewid eu bywydau a chreu gwell byd mewn partneriaeth â'r Deyrnas Unedig.