Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg
Teitl y Rôl: Arweinydd Tîm
Cyflog: £24,500
Dyddiad Cau: 23/01/2025
Dyddiad Cyfweld: I'w cadarnhau
Os ydych wedi gwneud cais o'r blaen yn ystod y 3 mis diwethaf, peidiwch â gwneud cais.
Amdanom ni/Ein Hadran:
Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd a chomedi i ddawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant Cymru. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Fel lleoliad, mae ein hadran Bwyd a Diod yn ffynhonnell incwm pwysig i ni i’n galluogi i barhau i dyfu fel prif gartref i’r celfyddydau yng Nghymru. Rydym yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos, a phob dydd ac eithrio Dydd Nadolig. Mae'r adran Bwyd a Diod wedi mynd trwy newid sylweddol yn y 12 mis diwethaf gyda dau far newydd yn agor, ac un sydd i’w hagor yn fuan. Mae pob un yn cynnig hunaniaeth, gwasanaeth a chynnig gwahanol, gan ddarparu cyfle sylweddol ar gyfer tyfiant.
Mae gennym ni rywbeth at ddant pawb, p'un a ydych chi'n mwynhau coffi wedi'i rostio'n lleol neu noson yn y cabaret, rydyn ni'n gartref i bawb ac yn angerddol am ddarparu profiadau anhygoel.
Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau:
- Dyma gyfle newydd cyffrous i ymuno â thîm bwyd a diod sy'n tyfu, yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae gennym nifer o fariau ar waith ar unrhyw un adeg, sy’n rhoi pleser i’n hymwelwyr ac yn tanio’r dychymyg.
- Boed yn ein caffi/bar, Ffwrnais, sydd yn hyrwyddo’r cynnyrch Cymreig gorau neu noson wych yn Cabaret, mae gennym ni rywbeth ar gyfer pawb yma yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, gyda thyfiant pellach cyffrous i ddod yn ddiweddarach eleni.
- Rydym yn chwilio am fodel rôl ar gyfer ein gwasanaeth cwsmeriaid, rhywun sy'n mwynhau bodloni cwsmeriaid, yn hyderus wrth ryngweithio ac yn syfrdanu ein hymwelwyr wrth arwain trwy esiampl.
- Byddwch wedi eich lleoli'n weithredol yn ein safleoedd Bwyd a Diod, yn rheoli'r tîm yn uniongyrchol, yn arwain trwy esiampl ac yn darparu gwasanaeth rhagorol ar gyfer ein cwsmeriaid yn gyson.
Mae’n bosib y bydd angen gwiriad DBS ar gyfer eich rôl.
Gofynion Allweddol:
- Hyfforddi staff Bwyd a Diod yn unol â Gweithdrefnau Gweithredu Safonol fel y'u gosodwyd gan y Tîm Rheoli.
- Arwain yr holl Staff Bwyd a Diod trwy gyfathrebu a'u cyfarwyddo i gwblhau'r tasgau a ddyrannwyd yn unol â'r Gweithdrefnau Gweithredu Safonol fel y'u gosodwyd gan y Tîm Rheoli.
- Cynorthwyo i reoli staff Bwyd a Diod, gan ddatrys unrhyw faterion sy’n codi a chyfeirio'r rhain yn ôl yr angen i Dîm Rheoli Bwyd a Diod.
- Cynorthwyo i gynnal a chwblhau gwerthusiadau gydag aelodau staff penodol yn unol â chyfarwyddyd y Tîm Rheoli.
- Cyfathrebu'n effeithiol gyda'r rheolwyr a'r tîm i sicrhau y bodlonir disgwyliadau, gan adrodd am unrhyw faterion i'r Tîm Rheoli.
- Mae hyblygrwydd ac argaeledd ar benwythnosau yn hanfodol oherwydd patrymau shifft hyblyg.
Beth Sydd Ynddo I Chi?
- 25 diwrnod o wyliau blynyddol gan gynnwys gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos waith 35 awr, ar sail pro rata ar gyfer gweithwyr rhan amser.
- 8% o bensiwn a gyfrannwyd gan y cwmni (ar gyfer eich cyfraniad o 3%)
- Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
- Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo.
- Aelodaeth Cymorth Meddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
- Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
- Yswiriant bywyd o 4x cyflog blynyddol
- Tocynnau theatr am bris gostyngol
- Clwb cymdeithasol
- Gwersi Cymraeg am ddim
- Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.
Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.