Mae Safbwynt(iau) yn broject newydd cyffrous gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru sy’n ceisio creu newid sylweddol yn y ffordd mae’r sector treftadaeth a chelfyddydau gweledol yn adlewyrchu amrywiaeth ethnig a diwylliannol ein cymdeithas. Caiff y project ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o ymdrech ar y cyd i gyflawni amcanion diwylliant a threftadaeth Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Mae saith gweithiwr creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol yn gweithio gyda saith sefydliad celf weledol a saith o amgueddfeydd cenedlaethol Cymru i greu gweithiau ac arddangosfeydd newydd.
Drwy gysylltu â chymunedau i ddarganfod safbwyntiau a straeon newydd, ac archwilio’r celfyddydau gweledol drwy lens gwrth-hiliol a dad-drefedigaethol, mae'r saith gweithiwr creadigol yn cwestiynu a herio ffyrdd presennol o feddwl.
Mae partneriaeth a cyd-greu yn greiddiol i’r rhaglen, ac fel rhan ohoni mae arddangosfeydd a phrofiadau newydd yn cael eu creu.
Y saith gweithiwr proffesiynol creadigol yw:
- Jasmine Violet – yn gwiethio gyda Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Amgueddfa Lechi Cymru
- Hannan Jones – yn gweithio gyda Artes Mundi ac Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
- Sophie Mak-Schram – yn gweithio gyda Canolfan Gelfyddydau Chapter ac Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
- Durre Shahwar – yn gweithio gyda GS Artists ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
- Sadia Pineda Hameed – yn gweithio gyda Llantarnam Grange a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
- Lucille Junkere – yn gweithio gyda Oriel Myrddin ac Amgueddfa Wlân Cymru
- Nasia Sarwar-Skuse – yn gweithio gyda Ways of Working ac Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
Un arall o amcanion y rhaglen yw cefnogi gyrfaoedd gweithwyr proffesiynol creadigol o gefndiroedd diwylliannol ac ethnig amrywiol, drwy ddarparu’r rhwydweithiau, y sgiliau a’r profiad o weithio gyda sefydliadau diwylliant a threftadaeth.
Caiff y project ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, fel rhan o ymdrech ar y cyd i gyflawni Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at ddysgu o’r gwaith hwn, a gweld sut y mae hynny’n llywio’r broses ehangach o newid, gan weithio gyda chymunedau er mwyn sicrhau tegwch yn yr hyn a wnawn a’n dulliau gweithio. Mae Safbwynt(iau) yn allweddol i’n helpu ni gyflawni amcanion ein Cynllun Gweithredu Ehangu Ymgysylltiad, a ddatblygwyd ac a gyflwynwyd gydag Amgueddfa Cymru.”
Cyngor Celfyddydau Cymru
“Ymrwymiad allweddol yn ein strategaeth 2030, yw sicrhau bod pawb yn cael eu cynrychioli yn yr hyn rydym yn ei wneud a sut rydym yn gweithio. Mae’r prosiect Safbwyntiau yn gam cadarnhaol ymlaen i sicrhau bod diwylliant Cymru yn adlewyrchu bywydau ei holl ddinasyddion ac yn hygyrch i bawb.
“Drwy weithio mewn partneriaeth â’r gweithwyr creadigol proffesiynol, sefydliadau celfyddydau gweledol, a Chyngor Celfyddydau Cymru, mae gennym gyfle i herio, meithrin ac ysbrydoli syniadau a safbwyntiau mewn ffyrdd newydd a chreadigol.”
Amgueddfa Cymru






