Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd y gwasanaeth, Mewnwelediad Cynulleidfaol Cymru, yn rhoi i leoliadau a chwmnïau teithiol Cymru fynediad i’r rhaglenni, Dod o Hyd i Gynulleidfa a Dangos yr Ystadegau. Byddwch chi’n gallu defnyddio'r rhain i gynllunio eich rhaglenni ac adnoddau, marchnata, eiriolaeth a gweithio mewn partneriaeth.
Meddai Cat McQuiggan, Pennaeth Cefnogaeth a’r Gymuned yn yr Asiantaeth Gynulleidfaol:
"Rydym ni’n edrych ymlaen at ddarparu’r rhaglen, Mewnwelediad Cynulleidfaol Cymru, ar eich cyfer. Bydd hyn yn ymestyn a gwella ein data cynulleidfaol cenedlaethol a’n rhaglen ddatblygu bresennol, Dod o Hyd i Gynulleidfa. Bydd yn cynnwys llwyfan dwyieithog, gwell ymarferoldeb, gan gynnwys rhanbarthau Cymru, a'r gallu i gyflwyno adroddiadau ar wahân ar gyfer celfyddydau a sefydliadau diwylliannol Cymru. Mae’n gam cyffrous ar gyfer yr Asiantaeth Gynulleidfaol ac yn fodd inni dyfnhau ac amrywio ein dadansoddiadau sydd ar gael i'n defnyddwyr o Gymru. Bydd yn gyfle i groesawu llawer o sefydliadau newydd i’n cymuned o ddefnyddwyr gan ei chyfoethogi â phrofiad a gwybodaeth newydd. Bydd pob un o'n defnyddwyr o Gymru yn gallu cael gafael ar ein set ddata helaeth ym maes diwylliant a’i dadansoddi gan gynyddu’r cyfle i ddatblygu golwg ymarferol ar ymddygiad cynulleidfaoedd ar draws celfyddydau Cymru."
Meddai Chris Batsford, Rheolwr Ymchwil a Gwerthuso, Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Bydd y gwasanaeth newydd yma o fudd i sefydliadau ein portffolio ond hefyd i’r sector ehangach yng Nghymru. Bydd sefydliadau yn gallu trawsnewid eu data drwy ryngwyneb hawdd ei ddefnyddio yn adnoddau gwerthfawr. Wedyn bydd modd defnyddio’r rhain i nodi grwpiau targed allweddol a dod o hyd iddynt a thyfu a datblygu cynulleidfaoedd.
Dod o Hyd i Gynulleidfa – dyma raglen data a datblygu i sefydliadau diwylliannol ddod i ddeall cynulleidfaoedd a’u cymharu. Mae'n cyfuno data o holl deuluoedd Prydain gyda gwybodaeth am ymddygiad a phroffil cynulleidfaoedd i amlygu'r cyfleoedd ar gyfer twf a newid. Mae'n rhan hanfodol o unrhyw ymdrech i ddatblygu cynulleidfa gyda’i meincnodau ac adroddiadau defnyddiol.
Dangos yr Ystadegau – dyma offeryn mewnwelediad cynulleidfaol sy’n cael ei bweru gan Ddod o Hyd i Gynulleidfa sy’n fodd i gwmnïau teithiol a sefydliadau weld eu cynulleidfaoedd ar draws taith lawn a fesul perfformiad. Byddan nhw’n gallu gweld darlun clir o’u cynulleidfaoedd i greu cynlluniau marchnata integredig neu gyflwyno achosion dros waith partneriaeth a derbyn arian.