Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae Theatr y Sherman wedi gwreiddio'i hun fel adnodd sifig ar gyfer dinasyddion Caerdydd, gyda phroffil cenedlaethol a rhyngwladol yn cynhyrchu theatr eithriadol, yn meithrin artistiaid Cymru ac yn cyfoethogi gwaith dramatig Cymru ymhellach. Roedd y Bwrdd yn dymuno penodi unigolyn â phrofiad sylweddol o greu gwaith o ragoriaeth artistig ac o gefnogi a datblygu artistiaid; rhywun oedd ag angerdd am osod y gynulleidfa yn flaenoriaeth ym meddylfryd y theatr, ac uchelgais a brwdfrydedd i barhau i adeiladu proffil y theatr. Bydd Joe Murphy yn dechrau yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Artistig ym mis Gorffennaf 2019, yn gweithio gyda Chyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Sherman, Julia Barry.
Cyfarwyddwr theatr yw Joe Murphy ac mae ganddo brofiad helaeth o weithio mewn adeiladau theatrau sefydledig ac yn llawrydd. Mae'n Gyfarwyddwr Cyswllt yn The Old Vic yn Llundain ar hyn o bryd, a bu'n Gyfarwyddwr Cyswllt yn Soho Theatre ac yn Gyfarwyddwr Artistig i'r cwmni ysgrifennu newydd, nabokov. Mae gwaith Joe fel cyfarwyddwr yn cynnwys Woyzeck gyda John Boyega (The Old Vic, Llundain), Incognito (Bush Theatre, Live Theatre a HighTide), Blink (Soho Theatre, Oddi ar Broadway a nabokov), Bunny (Soho Theatre ac Oddi ar Broadway), The Taming of The Shrew (Shakespeare’s Globe a Thaith y Byd) a The Boy with Striped Pyjamas (Children’s Touring Partnership). Drwy ei waith yn Soho Theatre ac fel Cyfarwyddwr Artistig nabokov, mae Joe yn adnabyddus am feithrin y genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr theatr: yn ystod ei gyfnod yn nabokov cyflwynodd y cwmni waith 88 o ddramodwyr a 496 o artistiaid ar draws tri chyfandir. Mae galw mawr am arbenigedd a chyngor Joe fel ymgynghorydd dramayddiaeth gan ymarferwyr theatr mawr eu bri. Dechreuodd perthynas Joe gyda Chaerdydd drwy ei berthynas hirsefydlog â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Meddai David Stacey, Cadeirydd Bwrdd Theatr y Sherman, ynghylch y penodiad:
"After an extensive search that included the receipt of over thirty applications from across the globe demonstrating a wide breadth of talent and experience, followed by a series of in depth interviews with outstanding candidates, we are pleased to be announcing the appointment of Joe Murphy as our new Artistic Director. The field was incredibly strong and that is testament to the work undertaken by the Sherman team over recent years to develop the theatre into the dynamic organization it is today.
The Board are extremely excited by Joe’s vision and commitment to build on Rachel O’Riordan’s legacy and forge new and inspiring innovations to drive Sherman Theatre forward in the coming years. Joe’s experience of working in some of the most significant
buildings in the UK, his demonstrable talent for nurturing and developing new writing and writers, and his passion for connecting with audiences and communities will ensure the continued momentum of the ongoing success of the Sherman."
Dywedodd Joe Murphy:
"I am completely thrilled to be appointed the next Artistic Director of Sherman Theatre. This exceptional building is home to world class Welsh artists working in both languages, it sits at the heart of an incredibly vibrant city, and it engages a rich mix of communities and audiences - I couldn’t imagine a more exciting place to be working. Welsh language theatre will continue to form a core part of the Sherman’s cultural offer and I am determined to build on the stellar work of taking Welsh stories to the international stage. The visionary leadership of Rachel O’Riordan is a very tough act to follow, but I can’t wait to get started"
Meddai Nick Capaldi, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru:
"We’re delighted to be welcoming Joe Murphy to Sherman Theatre. He inherits a strong and entrepreneurial organisation that occupies a prominent position in the cultural life of Wales. However, with an impressive and wide ranging career in theatre Joe brings with him the experience and reputation that will maintain Sherman Theatre’s success."
Yn ôl y dramodydd Tim Price:
"Mae penodiad Joe yn newyddion cyffrous i theatr Cymru. Dw i wedi nabod Joe ers rhai blynyddoedd, ac wedi gweld fy hunan pa mor ymroddedig ydyw i ddramodwyr a gwaith newydd. Mae Joe wedi gweithio gyda rhai o ddramodwyr ac actorion gorau'r maes, a bydd yn dod â'r wybodaeth a'r arbenigedd hwnnw i Gaerdydd. Dw i'n gwybod y bydd Joe yn falch o drochi ei hun yn ein diwylliant, a bydd e'n benderfynol o ddod o hyd i'r genhedlaeth nesaf o dalent, yn y ddwy iaith. Bydd Joe yn hyrwyddo ein cymuned yng Nghymru a thu hwnt."
Meddai Matthew Warchus, Cyfarwyddwr Artistig The Old Vic:
"This is a great appointment. Joe has been a tremendous force for good during his time at the Old Vic. His vitality, enthusiasm, skill and ability as a collaborator and a leader are very impressive. I know he will make great friendships in Wales. We at the Old Vic will miss him but we wish him well for this exciting new tenure at the Sherman."
Mae llwyddiant diweddar Theatr y Sherman yn cynnwys rhediad cyntaf y byd o Woof gan Elgan Rhys ac a gyfarwyddwyd gan Gethin Evans, cynhyrchiad a werthodd pob tocyn; cynhyrchiad llwyddiannus o ddrama glasurol Meic Povey Fel Anifail a gyfarwyddwyd gan Jac Ifan Moore; a chynhyrchiad hynod boblogaidd Main House Christmas o Alice in Wonderland i bobl 7 mlwydd oed ac yn hŷn. Yn 2018, Theatr y Sherman oedd y theatr gyntaf yng Nghymru i ennill teitl Theatr Ranbarthol y Flwyddyn yn y Stage Awards. Yn 2018 hefyd, enillodd cyd-gynhyrchiad Theatr y Sherman gyda Royal Court Theatre Llundain, Killology gan Gary Owen a gyfarwyddwyd gan Rachel O'Riordan, Wobr Olivier am Gyflawniad Nodedig mewn Theatr Gyswllt.
Mae cynlluniau datblygu artistiaid Theatr y Sherman, Rhaglen Dramodwyr Cymreig Newydd a Grŵp Cyfarwyddwr JMK y Sherman, sydd wedi'u hariannu gan The Carne Trust, yn parhau i arwain yn y sector.