Dros y pythefnos nesaf, byddant yn rhannu gwersi’r pedair blynedd diwethaf gydag athrawon o bob rhan o India fel gwesteion sefydliad addysgiadol Agastya International.

Yn ystod wythnos gyntaf eu arhosiad bydd, Siân James, Rheolwr Rhaglen Dysgu creadigol trwy’r celfyddydau, Daniel Trivedy, Swyddog Rhanbarthol Dysgu creadigol trwy’r celfyddydau, a’r artist, Jên Angharad yn gweithio gyda Sefydliad Agastya i deilwra’r rhaglen i gyd-destun India. Yn ystod yr ail wythnos yn bydd Daniel a Jên yn hyfforddi 100 o athrawon o bob cwr o India  yn egwyddorion allweddol y rhaglen.

Gan siarad heddiw, cyn camu ar yr awyren i Mumbai dywedodd Siân James:

“Ers ei lansio yn 2015, mae’r rhaglen Dysgu creadigol trwy’r celfyddydau wedi ysbrydoli ysgolion led-led Cymru trwy ei Ysgolion Creadigol Arweiniol a’i Raglen Celfyddydau ac Addysg Cymru Gyfan er mwyn gwneud y celfyddydau – yn ei ystyr ehangaf – yn ganolog i gwricwlwm cyfan ysgolion. Gwych o beth yw ein bod nawr, yn medru rhannu’r hyn yr ydym wedi ei ddysgu gyda gwledydd, a hyd yn oed gyfandiroedd, eraill”.

Dywedodd Diane Hebb, Cyfarwyddwr Celfyddydau (Estyn Allan) Cyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae’n fendigedig bod y cynllun arloesol hwn, sydd wedi cael y fath effaith ar ysgolion ar draws Cymru,  bellach yn denu sylw rhyngwladol, a’n bod yn cael gwahoddiad i rannu’r rhaglen â gwledydd eraill. Mae’r ymweliad hwn ag India yn gyfle heb ei ail i ddangos sut y gall y celfyddydau gael eu defnyddio i ddysgu pynciau ar draws cwricwlwm ysgolion, a gwneud dysgu yn gyffrous a yn hwyl i ddisgyblion o bob oedran ysgol.”

DIWEDD

Mae gwybodaeth bellach ynghylch rhaglen Dysgu creadigol trwy’r celfyddydau Cyngor Celfyddydau Cymru i’w gael o ymweld â http://www.arts.wales/arts-in-wales/creative-learning

Mae rhagor o wybodaeth am Sefydliad Agastaya i’w gael o fynd yma https://www.agastya.org/