Hydref 2019
Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi ei raglen artistig ar gyfer 2019/20. Bydd y tymor yn agor gyda chynhyrchiad newydd sbon o Carmen Bizet a fydd yn mynd ar daith trwy’r hydref 2019 a gwanwyn 2020. Mae Carmen yn adnabyddus am ei drama ac angerdd grymus yn ogystal ag am rai o ddarnau mwyaf poblogaidd y byd opera. Mae'r Cyfarwyddwr, Jo Davies, yn gosod ysbryd tanbaid Carmen mewn lleoliad Lladin Americanaidd ar gyfer ei chynhyrchiad newydd sy'n dathlu grym menywod yn wyneb gormes. Cyfarwyddwr Cerdd WNO, Tomáš Hanus sy'n arwain, gyda Leslie Travers a Gabrielle Dalton yn creu'r dyluniadau ar gyfer y set a'r gwisgoedd yn eu tro. Bydd y fezzo-soprano Virginie Verrez yn chwarae prif ran Carmen ar gyfer tymor yr hydref gyda Dimitri Pittas fel Don Jose, Phillip Rhodes fel Escamillo, Anita Watson fel Micaela ac Artist Cyswllt newydd WNO Harriet Eyley yn chwarae rhan Frasquita.
Ochr yn ochr â Carmen, bydd WNO yn adfywio cynhyrchiad 2010 James McDonald o Rigoletto Verdi gyda Mark S Doss (Scarpia yn Tosca WNO yn ddiweddar) yn chwarae'r brif ran. Bydd y sopranos sydd wedi cael cydnabyddiaeth ar raddfa ryngwladol, Marina Monzó a Jessica Nuccio yn rhannu rhan Gilda gyda'r tenor ifanc David Junghoon Kim yn canu rhan y Dug. Bydd Hydref 2019 hefyd yn gweld adfywiad cynhyrchiad David Pountney o The Cunning Little Vixen Janáček, a berfformiwyd diwethaf yn 2013, dan arweiniad Tomáš Hanus. Mae Aoife Miskelly yn dychwelyd i WNO fel Vixen gyda Claudio Otelli (Forester), Wojtek Gierlach (Parson) a Lucia Cervoni (Fox) hefyd yn dychwelyd i'r Cwmni.
Dyma'r cynhyrchiad cyntaf mewn cyfres Janáček flynyddol a drefnir gan WNO i ddathlu gwaith y cyfansoddwr bob hydref. Yn arwain y cyfres, bydd Hanus, a dderbyniodd Fedal Goffa Leoš Janáček yn ddiweddar, yn dod â'i angerdd ac arbenigedd rhyngwladol yng ngwaith y cyfansoddwr y mae'n rhannu'r un famwlad ag ef.
Wrth ymateb i'r tymor, dywedodd Cyfarwyddwr Cerdd WNO Tomáš Hanus: "Rwy'n gyffrous iawn y byddwn yn cyflwyno dwy opera yn hydref 2019 sy'n dilyn ffawd menywod clasurol. Mae personoliaethau Carmen a The Cunning Little Vixen, er ar yr olwg gyntaf yn amherthnasol i'w gilydd mewn gwirionedd yn anarferol a herfeiddiol. Yn ogystal, mae cerddoriaeth y ddwy opera yn arddangos ysbrydoliaeth, cywirdeb a sgil mawr Bizet a Janáček. Pan ysgrifennodd Bizet, Carmen nid oedd yn disgwyl i'r gwaith fod mor boblogaidd, ond gyda'i melodïau wrth fodd cenhedlaeth ar ôl cenhedlaeth roedd y fath sylw yn anochel. Mae The Cunning Little Vixen Janáček yn stori aml-haenog. Mae'n farddonol, fel stori tylwyth teg i blant, ond eto'n athronyddol. Yn fy marn i, ei golygfa olaf yw un o'r darnau gorau o opera erioed. Mae WNO yn cymryd balchder a gofal mawr wrth baratoi pob cynhyrchiad yr ydym yn ei gynnig ac ni allaf aros i gyflwyno'r campweithiau hyn o'r repertoire operatig i'n cynulleidfaoedd.
Mae hi'n werth nodi hefyd mai dyma'r tymor cyntaf heb David Pountney fel Cyfarwyddwr Artistig WNO. Felly, mae hyd yn oed yn fwy o fraint i mi allu gweithio gydag ef i barhau â'n partneriaeth, a datblygu ei berthynas arbennig ag WNO wrth iddo gyfarwyddo The Cunning Little Vixen yr hydref hwn. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda Jo Davies ar lwyfaniad newydd o Carmen."
Gwanwyn 2020
Yn agor tymor gwanwyn 2020 mae cynhyrchiad newydd o Les vêpres siciliennes; y bennod olaf yn nhrioleg Verdi WNO. Bydd y cynhyrchiad yn cael ei gyfarwyddo gan David Pountney a'i arwain gan Arweinydd Llawryf WNO Carlo Rizzi. Mae'r cast yn cynnwys Anush Hovhannysian fel Hélène, gyda Giorgio Cauduro yn dychwelyd i WNO fel Guy De Montfort yn dilyn canmoliaeth yn ddiweddar fel Dandini yn La Cenerentola. Mae Jung Soo Yun yn perfformio am y tro cyntaf gydag WNO fel Henri. Bydd dyluniad set ‘Peiriant Verdi’ Raimund Bauer o dair ffrâm sy’n cyd-gloi yn ymddangos eto yn y cynhyrchiad hwn, gyda gwisgoedd gan Marie-Jeanne Lecca, yr oedd ei gwaith cywrain wrth wraidd cynyrchiadau 2018 WNO, War and Peace a La forza del destino, yn ogystal ag ail ran trioleg Verdi, Un ballo in maschera.
Bydd y Cwmni hefyd yn adfywio cynhyrchiad 2016 o The Marriage of Figaro, a gyfarwyddwyd yn wreiddiol gan Tobias Richter ac yn cynnwys setiau a ddyluniwyd gan y dylunydd llwyfan enwog y diweddar Ralph Koltai gyda gwisgoedd gan Sue Blane. Bydd Cyfarwyddwr Llawryf Carlo Rizzi yn arwain perfformiadau tan 13 Mawrth pan fydd arweinydd gwadd yn cymryd yr awenau i orffen y daith. Bydd David Ireland yn arwain y cast fel y barbwr cymdeithasgar Figaro, ac yn rhannu'r llwyfan ag ef fydd Soraya Mafi fel Susanna a Jonathan McGovern (André yn War and Peace yn ddiweddar) fel y merchetwr a'r lliwgar Iarll Almaviva.
Cyflwynir y ddau gynhyrchiad yn y gwanwyn law yn llaw â pherfformiadau eraill o Carmen gyda Julia Mintzer yn chwarae rôl y teitl.
Haf 2020
Bydd yr haf yn gweld y bas-bariton o Gymru, Syr Bryn Terfel yn dychwelyd i'r Cwmni fel Dug Bluebeard mewn cynhyrchiad newydd o Bluebeard’s Castle Bartók, dan gyfarwyddyd David Pountney, gyda Michelle de Young fel Judit, rôl y mae hi wedi derbyn canmoliaeth fawr amdani ar draws y byd. Dyma fydd y tro cyntaf i Terfel berfformio mewn opera WNO ers Die Meistersinger von Nürnberg yn 2010. Bydd Tomáš Hanus yn arwain y noson o ddwy opera fer, gyda The Nightingale Stravinsky yn cwblhau'r sioe ddwbl. Bydd y pypedwr o fri rhyngwladol, Mark Down yn cyfarwyddo The Nightingale a fydd yn cynnwys pypedwaith arloesol o gwmni theatr Down, Blind Summit, ochr yn ochr â chast sy'n cynnwys Benjamin Hulett a Susan Bickley. Bydd perfformiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd a'r Royal Opera House, Llundain ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020.
Bydd cynhyrchiad o Così fan tutte Mozart wedi ei addasu'n arbennig ar gyfer theatrau llai a dan gyfarwyddyd Max Hoehn hefyd yn mynd ar daith yn ystod haf 2020. Bydd manylion llawn y daith yn cael eu cyhoeddi'n fuan, ond bydd yn cynnwys cyfres o berfformiadau un noson mewn lleoliadau graddfa-ganolig ledled Cymru a Lloegr, gan barhau ag ymrwymiad y Cwmni i gyflwyno opera o fewn cyrraedd ystod eang o gynulleidfaoedd a chymunedau.
Ymgysylltiad WNO
Yn ystod y flwyddyn, bydd WNO yn parhau i dyfu ei hybiau cymunedol yng Ngogledd a De Cymru, Birmingham a Southampton, gan ddod ag emosiwn a drama opera i fywydau pobl y tu allan i furiau theatr.
Mae rhaglen ymgysllitiad newydd yn gweld y cwmni’n cydweithio’n agos â chymunedau ffoaduriaid a cheiswyr lloches, fel ran o bartneriaeth pum-mlynedd â Chyngor Ffoaduriaid Cymru, gyda The Meena Centre yn Birmingham ac Oasis Cardiff.
Bydd ysgrifenwyr, cyfansoddwyr ac ymarferwyr dawns lleol yn gweithio gyda ffoaduriaid i ddarganfod ac adrodd straeon o bob cwr o'r byd, gan gydnabod y pŵer sydd gan celf a'r ffurf o adrodd stori i uno pobl ac i ryddhau naratif gyda’r modd i ysbrydoli ac ysgogi.
Yn dilyn cynhadledd 'Ble Mae'r Merched' llynedd yn 2018, bydd WNO yn cynnal digwyddiad arall yn 2020 i sicrhau bod y drafodaeth ynghylch gwleidyddiaeth rywedd o fewn opera a'r diwydiant cerddoriaeth glasurol yn parhau. Cynhaliwyd digwyddiad cychwynnol i gyd-fynd â'r première byd o Rhondda Rips It Up! ym mis Mehefin 2018 a bydd ail gynhadledd yn galluogi WNO i lledaenu’r casgliadau yn dilyn sefydliad o swydd Arweinydd Preswyl Benywaidd yn y cwmni.
Cyngherddau Cerddorfa WNO
Yn ystod y tymor blynyddol, bydd Cerddorfa WNO yn perfformio tri chyngerdd yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd. Bydd y cyntaf ym mis Hydref 2019 yn cael ei arwain gan Tomáš Hanus ac yn cynnwys yn bennaf repertoire o famwlad y meistr, Gweriniaeth Tsiec, gan gynnwys Vltava (The Moldau) gan Smetana a Choncerto i'r SieloDvořák.
Bydd yr ail gyngerdd, a gynhelir ym mis Ionawr 2020, yn gweld yr Arweinydd Llawryf, Carlo Rizzi yn cyfarwyddo Cerddorfa WNO mewn rhaglen sy'n cynnwys gweithiau gan Beethoven yn unig. Bydd y cyngerdd hwn yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau penodol drwy gydol y flwyddyn ledled Caerdydd i nodi 250 mlynedd ers genedigaeth Beethoven. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yng ngwanwyn 2019.
Bydd Hanus yn arwain y Gerddorfa unwaith eto ar gyfer y trydydd cyngerdd yng Nghyfres y Cyngherddau Rhyngwladol ym mis Ebrill 2020, a fydd yn canolbwyntio ar Goncerto i'r Feiolin Rhif 2 Prokofiev gydag Arweinydd Cerddorfa WNO David Adams fel unawdydd.
Wrth edrych ymlaen, dywedodd Hanus: "Yn ystod 2019-20, bydd perfformiadau cyngerdd Cerddorfa WNO yn parhau i fod yn rhan annatod o'n gwaith. Mae'r cyngherddau yr ydym yn eu cyflwyno yn Neuadd Dewi Sant fel rhan o Gyfres y Cyngherddau Rhyngwladol yn ein caniatáu i fynegi syniadau a themâu sydd fwyaf anodd eu mynegi mewn geiriau. Mae'n anrhydedd mawr i fod yn rhan o adeiladu'r cysylltiad arbennig hwn rhwng ein cynulleidfa a Cherddorfa a Chorws WNO. Rwy'n edrych ymlaen yn arbennig at groesawu'r sielydd Daniel Müller-Schott i Gaerdydd ym mis Hydref i berfformio Concerto i'r Sielo ysbrydoledig Dvořák.
Rwyf hefyd yn falch iawn y bydd Carlo Rizzi, Arweinydd Llawryf WNO, yn arwain un o'n cyngherddau Neuadd Dewi Sant. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod ein cynulleidfaoedd operâu a chyngherddau yn gwerthfawrogi bod y ddwy ffurf ar gelfyddyd yn allweddol i'r hyn yr ydym yn ei wneud. Mae operâu a chyngherddau erioed wedi bod â chysylltiad rhyfeddol a dirgel, maent yn ategu ei gilydd ac wrth eu cyfuno'n unig y ceir repertoire cyflawn.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Gerddorfa a Chorws WNO, yr wyf yn cael y cyfle i gydweithio'n agos â nhw. Ynghyd â holl aelodau'r cwmni, diolch iddyn nhw yr ydym yn gallu mynegi pŵer aruthrol opera."
Am ragor o wybodaeth, ewch i ymweld â wno.org.uk