"Dros y 32 mlynedd diwethaf rwyf wedi arwain y cwmni trwy gyfnodau da ac anodd, gan gynnwys 13 mlynedd heb unrhyw gyllid o gwbl, ond mae'r cyfan wedi bod yn bleser.
"Mae'r daith er 1986, pan ddechreuwyd y cwmni gyda £1000 gan y Cynllun Lwfans Menter, hyd heddiw, a ninnau’n un o gleientiaid Portffolio Celfyddydol Cymru y Cyngor Celfyddydau, wedi bod yn un llawn troeon trwstan, ond rwy'n edrych ymlaen yn arw at y dyfodol.
"Rwy'n ddyledus iawn i Amy, fy ngwraig, ac i Cai (2) ac Issy (5), ein plant, ac i Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru am ymddiried ynof, am gefnogi'r celfyddydau yn Ninas Casnewydd, ac am fy helpu i herio canfyddiadau pobl o bale."
Hyfforddodd Darius, sy'n hanu o Gasnewydd, De Cymru, gyda The Royal Ballet School, a hynny yn yr Ysgol Iau a'r Ysgol Hŷn. Fel dawnsiwr, gweithiodd gyda'r Northern Ballet Theatre a'r Alexander Roy London Ballet Theatre gan deithio ledled y byd, yn cynnwys UDA ac Ewrop. Bu Darius hefyd yn ddawnsiwr gwadd gyda chwmnïau ledled y byd. Yn rhinwedd ei swydd fel athro, bu'n darlithio yng Ngholeg Pont-y-pŵl (TGAU Dawns) ac yng Ngholeg Abertawe (Safon Uwch Bale), a bu'n athro gwadd ac yn feirniad ar gyfer Cymdeithas Cecchetti a Chystadleuaeth Dawnsiwr Ifanc y Flwyddyn y BBC.
Sefydlodd Darius Ballet Cymru yng Nghasnewydd yn 1986, ac mae'n dal i fod yn Gyfarwyddwr Artistig, gan arwain y cwmni at ennill Statws Portffolio Celfyddydol Cymru yn 2011. Mae'n frwd iawn dros wneud bale yn gynhwysol ac yn hygyrch i bawb, ac yn ymdrechu'n gyson i greu gwaith bale sy'n berthnasol, yn gyffrous ac yn arloesol. Mae wedi coreograffio llawer o gynyrchiadau un act, yn ogystal â chynyrchiadau llawn ar gyfer y cwmni, gan gynnwys dau gynhyrchiad sydd wedi ennill gwobrau, sef Romeo a Juliet a Little Red Riding Hood, Roald Dahl. Yn 2008, enillodd Darius Ddyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a gyflwynwyd iddo gan y Gweinidog dros Dreftadaeth, Rhodri Glyn Thomas AC. Mae Darius wedi ymddangos yn Who's Who er 2012, a chafodd ei benodi'n Is-lywydd Anrhydeddus The London Ballet Circle yn 2013.