Mae'r fideo arloesol, 'Beth yw Gwahaniaethu', a ragwelwyd ar ddydd Llun 21 Ionawr, yn ceisio torri stereoteipiau a disgleirio goleuni ar ddifrifoldeb gwahaniaethu yn y gweithle, trwy roi actorion ag anableddau dysgu ac/neu awtistiaeth yng nghanol y llwyfan. Mae Hijinx yn castio actorion niwroamrywiol ym mhob un o’u cynyrchiadau, ac mae ganddyn nhw dros 60 o actorion gyda syndrom Down, syndrom Aspergers, Awtistiaeth ag anableddau dysgu arall, sydd wedi’u hyfforddi’n broffesiynol, fel rhan o’u platfform castio.
Mae'r actorion Tom Powell, Fiona Wilson a Simon Gravelle i gyd yn hyfforddi yn Academïau Hijinx, sy'n gweithio i ddarparu actorion niwroamrywiol gyda'r sgiliau angenrheidiol i weithio yn y byd actio proffesiynol. Yn ogystal â hyfforddi a chynhyrchu cynyrchiadau theatr a ffilm, mae actorion Hijinx ar draws Cymru'n darparu hyfforddiant i fusnesau ar sut i gyfathrebu'n dda â chwsmeriaid, cleientiaid, cleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n agored i niwed.
Meddai Pip Thomas, Pennaeth Dysgu a Datblygiad Hugh James: "Ar gyfer ein hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaeth fwyaf diweddar, roeddem am greu fideo deinamig a dyfeisgar a ddygodd sylw at nifer o heriau y gall pobl ddod ar eu traws yn y gweithle. Daeth y cameos gan dîm Hugh James, yn ogystal â'r actorion anhygoel o Hijinx. Mae hiwmor naturiol i'r ffilm sy'n ei gwneud yn gynhyrchiad arbennig, gan bwysleisio'r anawsterau y gall gwahaniaethu ei achosi.
"Mae'r ffilm yn rhan o bartneriaeth ehangach rhwng Hugh James a Hijinx, a oedd hefyd yn cynnwys cyfres o weithdai hyfforddi sy'n canolbwyntio ar helpu staff i gyfathrebu'n dda â chleientiaid anabl, a chleientiaid sy'n agored i niwed."
Meddai Vanessa Morse, Dirprwy Brif Weithredwr yn Theatr Hijinx: "Mae Hyfforddiant Hijinx yn unigryw yn y ffaith bod actorion ag anableddau dysgu ac/ neu awtistiaeth yn gysylltiedig llwyr â'r cyflwyniadau. Mae ein hactorion yn dod â dilysrwydd ac amrywiaeth i hyfforddiant cwsmeriaid agored i niwed, sy'n anaml iawn i weld mewn cyd-destun busnes. Dros dro, rydym yn clywed gan gyfranogwyr eu bod yn gwerthfawrogi'r cyfle i ymarfer cyfathrebu ag actorion ag anableddau dysgu ac/ neu awtistiaeth mewn amgylchedd diogel, heb feirniadaeth.
"Rydym yn gobeithio y bydd llawer o fusnesau eraill ledled Cymru yn cymryd sylw ac yn dilyn arweinyddiaeth Hugh James wrth wneud eu hyfforddiant yn gwbl gynhwysol."
Mae'r ffilm yn dod â'r chwe math gwahanol o wahaniaethu y gallai pobl wynebu yn y gweithle i fyw, a bydd yn ffurfio rhan o hyfforddiant gorfodol Cydraddoldeb ac Amrywiaeth y cwmni cyfreithiol.
Am ragor o wybodaeth am Hyfforddiant Hijinx, cysylltwch â Vanessa Morse yn Hijinx ar 02920 300331.