Yn 2012, yn dilyn cais gan ddoctoriaid seiciatrig ym Mangor, defnyddiodd cwmni Frân Wen gofnodion meddygol y seilam Fictorianaidd fel ysbrydoliaeth ar gyfer cynhyrchiad theatr byw.
Saith blynedd yn ddiweddarach, mae’r stori yma – Anweledig – yn paratoi i deithio theatrau mwya’ Cymru.
Wedi ei ysgrifennu gan yr awdur adnabyddus Aled Jones Williams, Ffion Dafis sydd yn chwarae rhan Glenda, clerc banc sy’n byw gydag iselder difrifol ac sy’n glaf yn ysbyty iechyd meddwl Dinbych.
Mae’r ddrama un-actor yn dilyn ei siwrnai galonogol, drawmatig a gobeithiol.
“Dyma’r tro cyntaf i mi berfformio monolog ar y prif lwyfan, felly rwy’n teimlo’n gyffrous iawn (ac yn nerfus),” meddai Ffion Dafis.
“Wedi treulio 6 mlynedd yn datblygu’r sioe, mae o wedi bod yn esblygiad naturiol. Dechreuon ni gyda pherfformiadau mewn lleoliadau bychain ond, wrth i Aled ddatblygu’r sgript, daeth yn amlwg bod stori Glenda yn haeddu’r brif lwyfan.”
“Byddwn yn defnyddio’r llwyfan i’n mantais – ydw, dwi yno ar fy mhen fy hun ond fyddwch chi ddim yn siomedig pan fyddwch chi’n gweld sut mae’r set, y delweddau a’r gerddoriaeth wedi eu dylunio o gwmpas i.”
“Rydym yn edrych ymlaen at rannu’r cyfanwaith am y tro cyntaf a’r tro diwethaf.”
Rydym yn dilyn gofid personol Glenda wrth iddi fynd i’r afael â’r salwch a bywyd y tu allan i’r ysbyty – rydym yn dysgu nad yw’r daith i adferiad yn syml.
Mae sgript yr awdur yn tynnu ar ei brofiadau ei hun, “Mae Anweledig yn ein helpu i ddeall, dynoli a chydymdeimlo â phobl sy'n dioddef o iselder,” meddai Aled Jones Williams.
"Pan oeddwn i yn sâl roedd llawer o bobl yno i fy helpu, ond fel roeddwn i yn gwella roedd y bobl yn ei gweld yn anoddach. Mae ‘na linell yn y ddrama ble mae’n dweud 'Mae gwella yn beth blêr. A salwch yn od o daclus'.
"Roeddwn yn haws i fy nhrin pan oeddwn yn sâl na phan oeddwn yn gwella. Roedd pobl yn disgwyl i mi neidio i fyny a deud 'Iesu, mae’n iawn rŵan,' – ond doeddwn i ddim.
"Peth arall yw ailbwl. Mi ddigwyddith. Mae pawb yn llithro ond dwyt ti ddim yn mynd yn ôl i’r lle cychwynnol.
"Proses ydi gwella, nid un digwyddiad ar un diwrnod."
Mae’r Cyfarwyddwr Sara Lloyd yn argyhoeddedig y bydd pobl yn cerdded o’r theatr wedi mwynhau’r profiad.
“Rwyf am iddynt gerdded allan yn meddwl ychydig yn wahanol am y salwch. Gobeithio y byddant yn cael eu difyrru, byddant yn chwerthin ac yn crio, ond byddant yn teimlo’n fwy cadarnhaol am iselder.”
“Rwy’n sicr y bydd pob aelod o’r gynulleidfa yn gallu uniaethu â hi mewn rhyw ffordd neu’r llall. Mae iselder ac iechyd meddwl yn ein cyffwrdd ni i gyd.”
"Mae hi'n anrhydedd gweithio gydag Aled gan ei fod yn awdur mor hael. Mae wastad yn barod i drafod pob agwedd o’i waith.
“Mae ei waith yn difyrru am fod ei hiwmor naturiol bob amser yn disgleirio – mae’n adnabod y byd hwn, y tywyllwch a’r goleuni, ac mae rhywbeth go iawn amdano.
Mae wastad ystyr mwy dwys i’w waith, yn aml-haenog ac mae ei sgriptiau fel darnau o gerddoriaeth, mae ei rythm yn hyfryd i wrando arno a dyna beth sy’n cario’r gynulleidfa drwy’r stori.”
I gyd-fynd â’r cynhyrchiad, mae Frân Wen wedi comisiynu'r artist Mirain Fflur i greu arddangosfa gelf fydd yn rhedeg ochr yn ochr â phob sioe. Mae Mirain yn defnyddio naratif y ddrama ynghyd â straeon o’r hen ysbyty fel ysbrydoliaeth i greu arddangosfa gelf fydd yn rhedeg ochr yn ochr â phob sioe.
Cynhelir y cynhyrchiad a’r arddangosfa yn Pontio Bangor (19 – 22 Chwefror), Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth (5 – 8 Mawrth), Theatr Y Sherman Caerdydd (12 – 13 Mawrth), Ffwrnes Llanelli (18 – 21 Mawrth) a Stiwt, Rhosllannerchrugog (26 – 27 Mawrth).
Am docynnau a gwybodaeth pellach www.franwen.com