Lles gyda WNO yw rhaglen genedlaethol gyntaf Cymru i gael ei phresgripsiynu’n gymdeithasol, wedi’i datblygu ar y cyd â phob un o’r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru, a’i chynnig ganddynt. Ers ei sefydlu ym mis Tachwedd 2021, mae dros 360 o gyfranogwyr wedi cymryd rhan yn y rhaglen chwe wythnos, gyda 94% ohonynt yn adrodd bod y technegau anadlu’n effeithiol neu’n effeithiol iawn.
Mae’r rhaglen, sy’n cael ei chefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru, yn rhannu technegau a strategaethau a ddefnyddir gan gantorion opera proffesiynol i gefnogi rheolaeth anadl, gweithrediad yr ysgyfaint, cylchrediad ac ystum. Cyflwynir y sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ar Zoom er mwyn galluogi’r rhai sy’n fyr eu gwynt, blinder, gorbryder a phoen wneud defnydd o’r rhaglen heb unrhyw rwystrau o ganlyniad i leoliad daearyddol neu allu mynychu wyneb yn wyneb.
Mae hefyd yn canolbwyntio ar wella lles emosiynol - gyda’r sesiynau hyn yn cyflwyno’r cyfranogwyr i’r pleser o ganu, hyd yn oed os nad oes ganddynt unrhyw gefndir cerddorol. Mae unigolion hefyd yn cael eu cyflwyno i ffyrdd o ryngweithio ag eraill sydd efallai’n wynebu heriau tebyg gyda symptomau COVID Hir neu boen parhaus.
Mewn digwyddiad a gynhaliwyd yn y Senedd heddiw (dydd Mercher yr 20fed o Dachwedd), wedi’i noddi gan Peredur Owen Griffiths AS, fe wnaeth WNO arddangos y rhaglen a thrafod ei datblygiad.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys sesiynau rhyngweithiol wedi’u harwain gan un o arweinwyr lleisiol y rhaglen, Kate Woolveridge MBE, ynghyd â’i chydweithwyr Zoe Milton-Brown a Jenny Pearson, a oedd yn defnyddio technegau anadlu a chanu i ddangos sut caiff y sesiynau eu rhedeg. Fe wnaeth rai o gyfranogwyr y rhaglen hefyd rannu sut bu’r rhaglen o fudd iddynt yn bersonol.
Mae’r adborth gan y cyfranogwyr wedi dangos gwelliannau sylweddol mewn iechyd meddwl, gyda chynnydd mewn emosiynau cadarnhaol a hyder, a gostyngiad mewn teimladau o orbryder, iselder, gorfeddwl, a phanig.
Dywedodd June, sy’n cymryd rhan yn Lles gyda WNO:
‘Mae’r rhaglen Lles gyda WNO wedi newid fy mywyd. Mae gen i sawl cyflwr meddygol difrifol ac rwy’n byw gyda phoen a blinder parhaus. Rwyf bob amser yn teimlo’n well ar ôl bod mewn sesiwn, gan eu bod yn codi fy nghalon ac yn lleddfu fy mhoen. Mae’r ymarferion ysgafn a’r hwyl sydd i'w gael wrth gymryd rhan yn tynnu fy sylw o’r boen a’r straen.
‘Mae’r buddion yn parhau am ddyddiau wedi pob sesiwn, wrth i mi barhau gyda’r ymarferion a chanu’r caneuon pan fyddaf yn gweld bod fy hwyliau’n is. A phan fyddaf yn cael trafferth, mi fydd fy ngofalwr yn dechrau canu un o’r caneuon yr ydym wedi’u dysgu, am ei fod yn gwybod na fyddaf yn gallu peidio ag ymuno a bydd fy nhrafferthion yn lleddfu.'
Mae’r rhaglen Lles gyda WNO yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.
Dywedodd Peredur Owen Griffiths, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain De Cymru:
‘Rwyf wrth fy modd o fod yn noddi’r digwyddiad Lles gyda WNO yn y Senedd heddiw. Mae canu wedi bod yn rhan o fy mywyd cyhyd ag y gallaf gofio. O gorau ysgol i fod yn aelod o Gôr CF1 hyd heddiw, rwyf eisoes yn hynod gyfarwydd â’r nifer o fanteision i iechyd a lles emosiynol a ddaw wrth ganu. Boed hynny’n cymryd rhan neu’n gwylio, mae canu’n dod a llawenydd mewn cymaint o ffyrdd i bobl o bob cefndir.
‘Mewn cyfnod lle mae’r celfyddydau dan bwysau ariannol difrifol am nad ydynt yn cael ei hystyried mor bwysig ag adrannau eraill, ni ddylem anwybyddu neu fychanu’r lles y gall sefydliadau fel WNO ei annog a’i gefnogi. Dyma pam fy mod wrth fy modd o fod yn cefnogi gwaith pwysig WNO yn y digwyddiad hwn a’u holl ymdrechion yn y dyfodol.'
Mae WNO yn gobeithio cynnwys partneriaethau pellach yn y dyfodol, i gefnogi cymaint o bobl a phosib i allu cael mynediad at y rhaglen. Mae lefelau uchel o ddiddordeb yn eu gwaith ar draws y byd meddygol ac maent wedi cyflwyno’r rhaglen i Rwydwaith Straen Trawmatig Cymru, Cymdeithas Seicolegol Prydain, gwasanaethau iechyd amrywiol a dirprwyaethau cenedlaethol ac fe’i rhannwyd yn lansiad fframwaith cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar bresgripsiynu cymdeithasol.
Mae cynlluniau ar y gweill ar hyn o bryd i ehangu cyfeiriadau i gyflyrau tymor hir eraill, gan gynnwys ffibromyalgia. Mae hyn yn unol â datblygiad ac ehangiad Llywodraeth Cymru o raglen Adferiad ar gyfer Byrddau Iechyd Cymru i gynnwys cyflyrau tymor hir sydd â symptomau a thriniaethau adsefydlu tebyg.
Meddai Claire Jones, Ffisiotherapydd Ymgynghorol:
'Rydym yn teimlo'n freintiedig iawn ein bod wedi gweithio mewn partneriaeth ag Opera Cenedlaethol Cymru i ddatblygu'r rhaglen Lles gyda WNO, a ddechreuodd fel prosiect peilot bychan ar gyfer pobl gyda COVID Hir. Mae cleifion yn aml yn dweud wrthym sut mae bod yn rhan o'r rhaglen hon wedi cefnogi eu lles, cyfrannu at welliant yn eu symptomau a darparu cefnogaeth werthfawr gan gymheiriaid.
'Mae Byrddau Iechyd yng Nghymru yn defnyddio cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn parhau i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl sydd â COVID Hir, ac mae'r gwasanaethau nawr yn ymestyn eu cynnig i rai sydd ag anghenion a symptomau tebyg. Mae'n wych ein bod wedi gallu parhau i weithio'n agos gydag WNO i ehangu eu rhaglen ar y cyd â'n gwasanaethau GIG hefyd.'
Mae WNO hefyd yn cyflwyno rhaglenni presgripsiynu cymdeithasol newydd eraill i gefnogi cleifion gan gynnwys un gyda phobl ifanc mewn ysgolion uwchradd sydd yn profi gorbryder neu ddiffyg hyder; datblygu rhaglen newydd mewn partneriaeth â Chanolfan Gancr Felindre ynghylch bod yn fyr o wynt; ac maent yn y camau cynnar o ddatblygu rhaglen beilot ar gyfer unigolion sydd mewn Gofal Cefnogol.
Esboniodd Cynhyrchydd WNO, April Heade:
‘Rydym yn gwybod bod y celfyddydau’n gwneud cyfraniad grymus i’n hiechyd a llesiant, ac rydym wedi gweld yn uniongyrchol yr effaith gadarnhaol sylweddol mae’r sesiynau hyn wedi’i chael ar gyfranogwyr sydd wedi mynychu hyd yn hyn. Mae hi wedi bod yn hyfryd clywed sut mae’r rhaglen wedi gwella bywydau pobl, ac rydym wrth ein boddau fod y rhaglen yn esblygu i fod yn wasanaeth adsefydlu ar gyfer meysydd iechyd eraill gan gynnwys poen parhaus, sydd eisoes wedi dangos canlyniadau gwych.
‘Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Celfyddydau Cymru a’n partneriaid am eu cefnogaeth hyd yn hyn ond rydym hefyd yn dymuno sicrhau fod y cyllid ar gyfer y rhaglen wedi’i ddiogelu at y dyfodol fel bod modd parhau i’w datblygu fel y gall rhagor o bobl gael mynediad ac elwa ar y gwasanaeth arloesol hwn.’
Dywedodd Liz Clarke, Rheolwr Rhaglen Dros Dro Cyngor Celfyddydau Cymru:
‘Rydym wrth ein boddau o fod yn cefnogi rhaglen Lles gyda WNO ac yn parhau i edmygu ei hesblygiad. ‘Mae’n enghraifft wych o rym y celfyddydau pan ddaw i gefnogi ein hiechyd a’n lles ac rydym yn edrych ymlaen at weld sut y bydd y dysgu a’r profiad y mae'r tîm wedi’i ennill dros y tair blynedd ddiwethaf yn cael eu rhoi ar waith i gefnogi rhagor o bobl sy’n profi heriau iechyd yng Nghymru.’
Mae Lles gyda WNO wedi cael ei chynllunio gyda gweithwyr proffesiynol meddygol y GIG. Mae sesiynau ar gael yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae gwybodaeth bellach ar gael drwy: wno.org.uk/wellness-with-wno