Rhaglenni ydynt i fynd i'r afael â bylchau yn y ddarpariaeth neu â phroblemau a heriau mewn gwahanol agweddau ar gelfyddydau Cymru.

Yr Adolygiad Buddsoddi oedd y broses a benderfynodd sut y bydd ein harian yn cael ei rannu rhwng gwahanol sefydliadau celfyddydol dros y blynyddoedd nesaf.

 Roeddem wedi ymrwymo i edrych ar 14 maes gwaith penodol a oedd yn cynnwys adolygiad o ddawns Cymru, yn enwedig i gydnabod yr anawsterau yn y sector dawns gymunedol. Yn ystod yr Adolygiad Buddsoddi, daeth yn amlwg bod angen edrych ar y seilwaith dawns ac archwilio i sut olwg a allai fod ar ddarpariaeth y dyfodol.

Fel rhan o'r Ymyriadau Strategol Dawns, mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn Comisiynu adroddiad annibynnol manwl ar ddawns Cymru.

Bydd yr adroddiad yn edrych ar bob agwedd ar ddawns Cymru ac ymgynghori ag artistiaid, cwmnïau, cyflwynwyr, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr. Bydd yr adroddiad hefyd yn edrych ar arferion gorau dawns mewn gwledydd eraill yn ogystal â'r hyn sydd wedi gweithio'n dda mewn celfyddydau eraill yma. Dylai argymhellion yr adolygiad nodi blaenoriaethau a chamau gweithredu. Mae'r tendr nawr ar GwerthwchIGymru.