Ydych chi'n angerddol ac yn uchelgeisiol dros y celfyddydau yng Nghymru? Mae Theatr Cymru yn chwilio am hyd at 6 aelod newydd i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr.

Mae bod yn un o Ymddiriedolwyr Theatr Cymru yn rhoi cyfle gwerthfawr i gyfrannu at ddiwylliant Cymru, i fod yn rhan o fyd y celfyddydau, a mynychu digwyddiadau a pherfformiadau. Mae bod yn Ymddiriedolwr yn eich galluogi i wneud gwahaniaeth a chyfrannu at ffyniant y cwmni a theatr Gymraeg yn y dyfodol.

Mae’r cyfle hwn yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn y celfyddydau, sydd ag uchelgais, ac sy’n frwdfrydig. Yn ogystal, ry’n ni’n chwilio am rai Ymddiriedolwyr sydd ag arbenigedd neu brofiad yn y meysydd canlynol:

  • Cyllid a rheolaeth ariannol
  • Theatr, fel ffurf artistig (yn cynnwys gweithwyr llawrydd)
  • Llywodraethiant 
  • Adnoddau Dynol 
  • Marchnata a Chyfathrebu

Mae croesawu amrywiaeth o bobl a chymunedau i’r cwmni yn hynod bwysig i ni. Felly, bydden ni’n arbennig o awyddus i dderbyn cais gan unrhyw un sy’n uniaethu gydag un neu ragor o’r grwpiau canlynol: menywod; pobl ifanc (dan 30 oed); pobl o’r Mwyafrif Byd-Eang; a phobl anabl. 

Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein Bwrdd mor gynhwysol a chynrychioliadol â phosib. Os ydych yn ystyried bod rhwystrau yn eich atal rhag mynegi diddordeb mewn bod yn Ymddiriedolwr, cysylltwch â ni i drafod.

Os hoffech gael sgwrs anffurfiol, mae croeso i chi gysylltu â ni:

angharad.leefe@theatr.com
07903 842554

Diddordeb? Ewch i wefan Theatr Cymru i ddarllen y manylion llawn ac i lenwi ffurflen mynegi diddordeb.

Dyddiad Cau: 23 Ionawr 2025, 2pm.

Cyfweliadau: Yn ystod yr wythnos sy’n dechrau 10 Chwefror 2025.
 

Dyddiad cau: 23/01/2025