Roedd Willow* yn 16 oed ac â phroblemau iechyd meddwl. Roedd ei therapydd S-CAHMS wedi’i chyfeirio at raglen greadigol y bwrdd iechyd.
Mae Hwb Celfyddydol gan Hywel Dda yn defnyddio gweithgarwch creadigol i wella lles, lleddfu ar drallod a magu hyder plant a phobl ifanc yn y Gorllewin gan gynnwys y rhai sydd eisoes yn hysbys i'r gwasanaethau.
"Ar y dechrau roeddwn i'n ofnus," meddai Willow. "Ond ar ôl y sesiwn gyntaf roedd yn iawn oherwydd roedd pawb mor garedig. Roeddem wedi creu crochenwaith, lluniau, cerddoriaeth a hyd yn oed darlunio â fy llaw chwith."
Yn 2022 roedd y rhaglen wedi dechrau mewn ymateb i gynnydd ar ôl y pandemig mewn pobl ifanc a oedd yn gofyn am gymorth gyda’u hiechyd meddwl. Ond roedd rhestrau aros y gwasanaethau’n hir. Roedd gwerthusiad o'r rhaglen wedi nodi’r gwahaniaeth a wnaeth i'r bobl ifanc. Roedd gan y bobl ifanc 20 nod personol ac roedd pob un wedi dangos cynnydd. Roedd y plant yn dweud eu bod yn teimlo'n rhan o bethau ac wedi’u cynnwys ac roedd celf yn ffordd iddynt ymfynegi.
Yn yr arolwg roedd tri chwarter (77%) yn sôn bod eu lles wedi gwella. Roedd pob un yn y rhaglen yn dweud eu bod wedi dysgu sgìl newydd ac yn bwriadu parhau gyda gweithgarwch creadigol. Dywedodd pawb yn yr arolwg y byddent yn argymell Hwb Celfyddydol i ffrind ac o’r farn ei fod yn werth chweil.
Fel arfer byddwn yn fy ystafell drwy'r dydd yn gwneud dim. Ond yn Hwb Celfyddydol, roedd pobl a oedd yn fy neall. Roeddwn hefyd yn teimlo'n bwysig. Mae sylweddoli bod pobl eraill yn cael yr un problemau wedi lleddfu ar fy mhryderon. Roedd yn arwydd bod modd datrys pethau ac yn rheswm i obeithio
Ym mhob sir mae'r sesiynau, sy’n digwydd dwywaith y flwyddyn, yn rhedeg am 6 wythnos dan arweiniad artistiaid. Mae pobl ifanc yn cael rhywfaint o gefnogaeth ysgafn ym mhresenoldeb oedolyn y maent yn ymddiried ynddo. Wedyn maent yn symud drwy sesiynau unigol a grŵp cyn dechrau ar weithgareddau cymunedol yn y diwedd. Yn y sesiynau mae celfyddydau’r awyr, animeiddio, cerddoriaeth a’r cyfryngau cymysg. Maent yn cael cynnig gweithdai creadigol rhydd dan arweiniad y bobl ifanc sy’n dewis celfyddyd i’w harchwilio. Rhyddid, mynegiant a chreadigrwydd yw ffocws y rhai sy'n cymryd rhan.
Dywedodd Katie O'Shea, Arweinydd Therapïau Seicolegol S-CAMHS yn Hywel Dda: "Mae Hwb Celfyddydol wedi tyfu’n rhan bwysig o'n gwasanaeth arbenigol i blant a phobl ifanc. Mae'n cynnig lle diogel a chreadigol i bobl ifanc archwilio eu teimladau, magu hyder a chysylltu ag eraill.
"Rydym wedi gweld sut mae’r rhaglen yn sbarduno newid mewn lles a newid sut mae’r bobl ifanc yn gweld eu bywyd a'r dyfodol. Rydym ar binnau bach i weld sut mae'n datblygu a chyrraedd rhagor o bobl ifanc yn ein cymuned."
Mae cymryd rhan yn Hwb Celfyddydol, yn ôl Willow, nid yn unig wedi sbarduno ei hangerdd am gelf eto ond wedi ennill cyfeillion newydd iddi.
"Roedd yn teimlo fel teulu," meddai Willow. "Roeddem wedi cyfnewid manylion cyswllt ac roedd pawb eisiau aros yn ffrindiau. Rydych yn cwrdd â phobl newydd ac yn dechrau datblygu’n berson newydd. I ddechrau mae'n codi ofn arnoch ond ar ôl cyrraedd yno rydych yn sylweddoli mai dyma'r dewis gorau yn y byd."
Dywedodd Catryn Ramasut, Cyfarwyddwr y Celfyddydau o Gyngor Celfyddydau Cymru: "Gyda'n partneriaid yn Sefydliad Baring, rydym yn falch o gefnogi Hwb Celfyddydol ers ei sefydlu drwy ein rhaglen Celf a’r Meddwl. Mae’n gwneud gwahaniaeth i iechyd meddwl pobl ifanc ac yn enghraifft o amcanion Celf a’r Meddwl. Mae’n harneisio grym iachau creadigrwydd ym maes iechyd meddwl. Mae ei lwyddiant wedi ysbrydoli byrddau iechyd eraill i ystyried sut mae modd cyflwyno’r celfyddydau yn eu gwaith gyda phobl ifanc i liniaru ar eu problemau."
Celf a’r Meddwl Cyngor y Celfyddydau a Sefydliad Baring sy’n cefnogi Hwb Celfyddydol.
Am ragor o wybodaeth am y rhaglen, ewch i: Hwb celfyddydol - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
*Mae Willow yn ffugenw i amddiffyn anhysbysrwydd yr unigolyn ifanc yma.