Yn ystod y gynhadledd, cynhelir seremoni y Rural Touring Awards (ar 3 Gorffennaf), ac mae enwebiadau o Gymru mewn tri chategori.
Ers 1997 mae’r NRTF wedi cefnogi cynlluniau teithio gwledig, hyrwyddwyr, artistiaid a grwpiau cymunedol i ddod â chynyrchiadau creadigol proffesiynol i leoliadau a chynulleidfaoedd gwledig. Maen nhw’n gwneud hyn ledled y DU trwy brosiectau, rhwydweithio, darparu cyfleoedd datblygu ac arddangos, dosbarthu grantiau a rhannu gwybodaeth.
Yn ystod y gynhadledd, cyflwynir y Gwobrau Teithio Gwledig. Eleni mae yna enwebiadau o Gymru mewn tri chategori.:
Sam Pullen, Aberdyfi – enwebedig yng nghategori person ifanc y flwyddyn. Dywedodd ei enwebwr amdano:
"Ers 2017, pan oedd yn ddim ond 13, mae wedi bod yn helpu gyda’r holl sioeau Noson Allan a gawsom yn Neuadd Dyfi, a helpu go iawn hefyd. Mae o'n helpu ar y dechrau ac ar y diwedd. Mae’n rigio’r goleuadau, yn gosod cadeiriau ac yn clirio ar y diwedd. Os nad oes unrhyw beth amlwg i’w wneud, mae’n dod o hyd i waith. Os yw hi'n bwrw glaw fe fydd o y tu allan yn hebrwng y gynulleidfa i mewn o dan ymbarél. "
Gaynor Morgan Rees a Gwyneth Kensler o Ddinbych – wedi eu henwebu yng nghategori hyrwyddwr gwirfoddol neu grŵp hyrwyddo y flwyddyn. Maent wedi'u henwebu gan Noson Allan Cymru am eu gwaith a'u hymrwymiad i Theatr Twm o'r Nant, Dinbych ers 1984. Dywedodd Noson Allan:
"Ers dros ugain mlynedd mae’r ddwy nodedig hon - Gaynor Morgan Rees a Gwyneth Kensler o Theatr Twm o'r Nant yn Ninbych wedi trefnu perfformiadau drwy'r cynllun Noson Allan, a hynny’n Gymraeg a Saesneg. Yn y pedair blynedd diwethaf yn unig, maent wedi hyrwyddo 36 sioe ac rydym yn rhagweld llawer mwy i ddod."
Theatr Bara Caws , Caernarfon – wedi ei enwebu ar gyfer gwobr arbennig. Dywedodd eu henwebwr am y cwmni:
"Mae Theatr Bara Caws yn gwmni theatr cymunedol sy'n cyflwyno gwaith gwreiddiol, sy’n berthnasol i amrywiaeth eang o bobl. Maen nhw’n cynnig profiadau theatrig o'r ansawdd uchaf, ac yn dod ag adloniant a chyffro, dyfeisgarwch a pherthnasedd i gymunedau Cymru"
Yn ymateb i’r enwebiad, dywedodd Theatr Bara Caws:
"Rydym ni’n falch tu hwnt o fod ar restr fer y National Rural Touring Awards. Mae'n braf iawn gwybod bod ein gwaith yn parhau i gael ei werthfawrogi drwy Gymru ac rydym yn teimlo'n gryf bod rhaid i ni barhau i ymdrechu i wireddu ein cenhadaeth o gyflwyno rhaglen artistig amrywiol o ansawdd uchel mewn cymunedau yng Nghymru benbaladr. Mae’n braf derbyn cydnabyddiaeth am y gwaith hwn trwy gael ein henwebu."
Gan siarad heddiw, dywedodd Pete Gregory, Pennaeth cynllun Noson Allan, Cyngor Celfyddydau Cymru:
"Gyda'r gynhadledd NRTF eleni yn cael ei chynnal yng Ngwynedd, mae'n wych fod cynifer o enwebiadau o Gymru wedi cyrraedd rhestr fer y gwobrau mawr eu parch yma”
"Mae’r rhai a gafodd eu henwebu yn gwneud gwaith rhagorol ac yn cyfrannu'n fawr at gyflwyno adloniant o ansawdd uchel i gefn gwlad Cymru. Mae’r rheini ohonom sy'n gweithio ar y cynllun Noson Allan yn ymwybodol iawn o rôl allweddol gwirfoddolwyr ar hyd a lled y wlad, felly mae'n wych gweld rhai ohonynt o leiaf yn cael cydnabyddiaeth."