Heddiw, mynegodd Cyngor Celfyddydau Cymru ei dristwch ynghylch marwolaeth ddiweddar Janek Alexander, Cyn-gyfarwyddwr Artistig Chapter yng Nghaerdydd.

Yn ei sylwadau heddiw, dywedodd Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:

'Roedd pob un ohonom yn drist o glywed am farwolaeth Janek Alexander, rhaglennydd theatr nodedig ac yn ddiweddarach gyfarwyddwr artistig Chapter yng Nghaerdydd. Roedd Janek yn ymroddedig iawn i waith beiddgar a heriol. Roedd ei ymrwymiad yn ganolog i greu hunaniaeth unigryw Chapter. Roedd hefyd yn annog artistiaid a grwpiau newydd yng nghyfnod cynnar eu datblygiad. Mae llawer ohonynt eisoes wedi bod yn gynnes eu teyrnged iddo a byddwn yn clywed llawer mwy yn y misoedd i ddod.

"Roedd haelioni Janek yn gymysg â ffraethineb a deallusrwydd miniog. Roedd ganddo ymrwymiad cadarn i werthoedd craidd Chapter ac amddiffynnodd y sefydliad yn egnïol, gan ei lywio drwy lu o anawsterau ar wahanol adegau. Roedd sawl ffrae liwgar rhwng Janek a’r Cyngor ac roedd y ddwy ochr yr un mor ddi-ildio ac roedd gwerthoedd cryf gan y ddau ornestwr. Ond ar ddiwedd y dydd mae pawb ohonom ar dân dros y celfyddydau ac yn cofio ac anrhydeddu Janek gyda’n diolch diffuant. Ni anghofiwn fyth ei waith a'i gyfraniad at gelfyddydau Cymru.'