Mae Theatr Clwyd yn chwilio am Dechnegydd Goleuo profiadol, gyda sgiliau mewn rigio, ffocysu a’r gwneuthuriad o drydan set, i fod yn rhan o’r tîm Goleuo. Gydag arbenigedd mewn hwyluso pob gofynion goleuo, mae’r tîm yn darparu gwasanaeth i gynyrchiadau Theatr Clwyd o’r safon uchaf bosib, gan weithio yn ein gofodau theatr sydd newydd gael eu hadnewyddu.

Math o Gontract: Parhaol

Oriau: 37 yr wythnos

Cyfweliad: W/D 07/04/2025

Cyflog: £25,732

Bydd y Technegydd Goleuo yn gweithio fel rhan o’r tîm goleuo i ddarparu gwasanaeth sydd o’r safon uchaf bosibl i holl gynyrchiadau Theatr Clwyd a chynyrchiadau sy’n ymweld. Mae'r rôl yn gofyn am lefel dda o wybodaeth am oleuo o fewn cyd-destun creu theatr a sgiliau ymarferol cadarn. Mae ein Teulu Creu Theatr yn darparu cyfleusterau creu theatr o safon byd ac mae’r Technegydd Goleuo’n cefnogi ein gwaith cynhyrchu, yn ogystal â chefnogi’r cwmnïau sy’n ymweld rydym yn eu gwahodd i’n hadeilad.

Cyfrifoldebau Allweddol

  • Darparu cefnogaeth gyda holl ofynion Goleuo cynyrchiadau Theatr Clwyd, a gweithio gydag aelodau’r tîm creadigol i sicrhau bod cefnogaeth dechnegol mewn goleuo yn cael ei rhagweld a’i darparu ar gyfer holl waith Theatr Clwyd, y tu mewn a’r tu allan i’r adeilad, gan gynnwys cefnogi tîm Technegol y Lleoliad ar gyfer cynyrchiadau sy’n ymweld a digwyddiadau.
  • Ymgymryd â gwaith ymarferol mewn perthynas â gwneud gofynion LX penodol ar gyfer cynyrchiadau Theatr Clwyd, gan gynnwys gwaith trydanol setiau ac unrhyw LX ymarferol yn yr adran props / gwisgoedd.
  • Ymgymryd â gwaith ymarferol mewn perthynas â dod i mewn, ffitiadau, datgymalu a mynd allan, gan gynnwys cydosod, rigio, addasu a defnyddio offer goleuo, effeithiau arbennig (gan gynnwys gwaith trydanol setiau) ac unrhyw brops LX ymarferol ac ati.
  • Darparu cefnogaeth goleuo a thechnegol i holl ddefnyddwyr y theatr ac unrhyw ofod ymarfer.
  • Darparu cefnogaeth goleuo a thechnegol yn ystod perfformiadau yn ôl yr angen.
  • Gosod unrhyw offer technegol sydd ei angen ar gyfer gofod perfformio neu ddigwyddiadau.
  • Lle bo angen, darparu cymorth technegol i ddefnyddwyr allanol.
  • Bod yn gyfrifol am agor a chau’r ardaloedd cefn llwyfan pan fo angen.
  • Gyda'r Technegwyr eraill, cynnal a chadw'r ardaloedd cefn llwyfan yn gyffredinol, gan gynnwys y llwyfan, y bocsys rheoli golau a sain, y gweithdy LX a’r mannau storio, gan sicrhau eu bod yn cael eu cadw'n lân ac yn daclus ac yn cael eu cynnal a'u cadw'n dda bob amser.
     
Dyddiad cau: 30/03/2025