Mae Tanio Arloesedd yn her cadwraeth natur gyffrous sy’n gwahodd pobl ifanc angerddol i rannu eu syniadau disgleiriaf ar gyfer planed iachach. Dyma'ch cyfle i ddod â phrosiect go iawn yn fyw gyda chyllid a chefnogaeth arbenigol.

Sylwch mai dim ond ceisiadau yn Saesneg y gallwn eu derbyn.

Gyda newid hinsawdd ar garreg drws pawb, mae coedwigoedd a bywyd gwyllt dan fygythiad. Felly rydym yn ymuno â'r genhedlaeth nesaf. Gyda'ch help chi, rydyn ni'n dod o hyd i ffyrdd newydd o hybu bioamrywiaeth a chefnogi coedwigoedd a bywyd gwyllt yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.

Beth yw'r her?

Rydym yn cynnig cyfle i chwe unigolyn neu grŵp bach 16-25 oed ddatblygu a chyflawni prosiectau a fydd yn helpu byd natur.

Gallai eich syniad:

  • ennill cyllid prosiect hyd at £6,000 
  • cael 12 mis o fentoriaeth gan arbenigwyr cadwraeth profiadol.  

Os yw eich syniad yn un o'r 18 i gyrraedd y rhestr fer, fe'ch gwahoddir i sesiwn hyfforddi unigryw i adeiladu eich hyder i sefyll dros natur a gwneud cyflwyniad da. Bydd chwe chystadleuydd yn y rownd derfynol yn cael eu dewis i gyflwyno eu prosiect yn bersonol am gyfle i wireddu eu prosiect.  

Yn ogystal â helpu i sicrhau dyfodol coedwigoedd a bywyd gwyllt, gall eich prosiect gyda ni roi hwb i'ch gyrfa ym maes cadwraeth. Sicrhewch brofiad go iawn yn y diwydiant a gwella'ch CV neu'ch cais prifysgol, a'r cyfan wrth helpu'r blaned. 

Mae ceisiadau ar gyfer 2025 ar agor. Gwnewch gais nawr
 

Dyddiad cau: 20/01/2025