• Cyflog: £26,353
  • Cytundeb: Mehefin 2024 – 31 Mawrth 2026, gyda'r potensial i ymestyn, yn amodol ar gadarnhad o gyllid blynyddol (yn amodol ar gyfnod prawf o 3 mis).
  • Oriau: 40 awr yr wythnos (TOIL). Mae peth gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau yn angenrheidiol i’r swydd
  • Lleoliad: Hybrid. Un - dau ddiwrnod swyddfa yr wythnos yn Chapter,Caerdydd, gyda'r opsiwn ar gyfer gweithio gartref.

Diben y Swydd
Cefnogi’r Ganolfan a’i haelodau i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer sinema annibynnol Brydeinig a rhyngwladol, a hynny ledled Cymru, drwy waith marchnata ac allgymorth. Mae hyn yn cynnwys prosiect 'spotlight' penodol yng Ngogledd Cymru a marchnata B i B o gyfleoedd i aelodaeth y Ganolfan.

Mae ffurflenni cais a disgrifiad swydd ar gael i’w lawrlwytho isod. Ni allwn dderbyn CVs. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses o wneud cais cysylltwch os gwelwch yn dda gyda apply@chapter.org

Ni fyddwn yn gallu cyfarfod gydag ymgeiswyr unigol cyn y cyfweliad.
Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Mercher 8 Mai, 10am
Cynhelir cyfweliadau: Dydd Mawrth 14 Mai
 

Amdanom ni
Mae Canolfan Ffilm Cymru (CFfC) yn dathlu sinema. Rydym yn cefnogi cyrff sy’n dangos ffilmiau - o wyliau ffilmiau i gymdeithasau a chanolfannau celfyddydau cymysg. Wrth gyd-weithio gyda dros 300 o arddangoswyr ein bwriad ydy cynnig y ffilmiau Prydeinig a rhyngwladol gorau i bob cynulleidfa ar draws Cymru a’r DU.

Rydym yn rhan o rwydwaith wyth canolfan yn y DU a gyllidir gan y Sefydliad Ffilm Prydeinig (BFI) fel rhan o Rwydwaith Cynulleidfa Ffilm (FAN), mae Chapter wedi’i benodi fel y Corff Arwain Canolfan Ffilm (FHLO) yng Nghymru.

Roedd Canolfan Ffilm Cymru yn falch o arwain y Strategaeth Sinema Gynhwysol ar ran BFI FAN 2017-23.

Dyddiad cau: 08/05/2024