Llawn-amser, 37 awr yr wythnos, cytundeb penodol am 12 mis.

Gradd C: Cyflog cychwynnol o £34,561

Lleoliad: Hyblyg – cewch weithio o unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru (Bae Caerdydd, Caerfyrddin, Bae Colwyn)

Y Gymraeg: Hanfodol

Mae ein buddion yn cynnwys 30 diwrnod o wyliau blynyddol, 2.5 diwrnod braint, oriau/patrwm gweithio hyblyg, , cynllun beicio i'r gwaith a phensiwn cyflog terfynol (6%).

Am y rôl

Rydyn ni’n recriwtio i rôl lawn-amser Swyddog Grantiau a Mynediad er mwyn cynorthwyo gwaith ehangach y tîm Grantiau a Gwybodaeth, a’n gwaith i hwyluso mynediad yn benodol. 

Y Swyddogion Grantiau a Gwybodaeth yw’r prif bwynt cyswllt ar gyfer unigolion a sefydliadau sydd am gael cymorth, cefnogaeth a chyllid gennym. Darparu cyngor a gwybodaeth yw un o’n gwasanaethau pwysicaf, ac mae ansawdd ein darpariaeth yn hyn o beth yn cael effaith allweddol ar ein henw da a’n hygrededd. 

Gan ddefnyddio eu gwybodaeth arbenigol eu hunain a’u cydweithwyr ar draws y sefydliad, mae Swyddogion Grantiau a Gwybodaeth yn rheoli ymholiadau a cheisiadau am wybodaeth a chyngor, gan ymchwilio a llunio canllawiau ysgrifenedig pan fo angen. 

Mae dyfarnu grantiau yn rhan greiddiol o’n gwaith, ac mae cyflawni hynny’n effeithiol wrth galon gwaith y tîm. Mae’r Swyddogion Grantiau a Gwybodaeth yn gyfrifol am asesu a monitro grantiau am brosiectau’r loteri ar draws Cymru. Gan gydweithio’n agos â’r Swyddogion Datblygu, maen  nhw’n sicrhau bod gwasanaethau effeithlon a syml yn cael eu darparu ar gyfer unigolion a sefydliadau.         

Mae Swyddogion Grantiau a Gwybodaeth yn gweithredu fel eiriolwyr ar ran Cyngor y Celfyddydau, ei waith a’r gweithgareddau y mae’n eu cefnogi, ac maen nhw’n helpu i hybu datblygiad perthnasau cadarnhaol a chydweithredol gydag artistiaid a sefydliadau’r celfyddydau.

Bydd y Swyddog Grantiau a Mynediad yn cynorthwyo’r tîm Grantiau a Gwybodaeth â’r gwaith craidd, ond y ffocws fydd datblygiadau newydd ynghylch cymorth hwyluso i ymgeiswyr. Ein nod yw gwneud ein gwasanaeth mor hygyrch â phosibl 

Bydd y Swyddog Grantiau a Mynediad yn cynorthwyo ymgeiswyr sy’n wynebu rhwystrau i gyrchu ein gwasanaethau a’n gwybodaeth ar ffurf cymorth cyn ymgeisio. 

Amdanoch chi

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus angerdd dros y celfyddydau a gwybodaeth gadarn am y maes, dealltwriaeth drylwyr am faterion cydraddoldeb a sut i’w rhoi ar waith yn ymarferol yng ngwaith Cyngor y Celfyddydau, a bydd yn gyfarwydd â materion ariannol a busnes. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus sgiliau cyfathrebu a’r gallu i reoli a chyflawni rhaglen amrywiol o brosiectau a thasgau. 

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn dod â dealltwriaeth am bwysigrwydd darparu cymorth teg o safon uchel, boed hynny ar sail profiad byw o anabledd neu brofiad blaenorol o ddarparu cymorth hwyluso. 

Rydyn ni wedi ymrwymo i greu gweithle cynhwysol, ac rydyn ni’n gwerthfawrogi pwysigrwydd profiadau byw o anabledd a’r safbwyntiau unigryw a ddaw yn sgil hynny. Byddai hyn felly’n ddymunol ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus. 

Mae manylion llawn gofynion y rôl yn y swydd-ddisgrifiad. 

Y Gymraeg

Rydyn ni’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, ac mae rhuglder hyd o leiaf Lefel 3 yn y Gymraeg yn hanfodol o’r cychwyn cyntaf yn y rôl yma. Ar ôl eich penodi, gallwn eich cynorthwyo chi i ddatblygu a gwella eich sgiliau yn y Gymraeg ymhellach er mwyn magu eich hyder wrth ysgrifennu a siarad Cymraeg. 

Amrywiaeth a Chynwysoldeb

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n gyflogwr cynhwysol, ac rydyn ni am adlewyrchu’r cymunedau amrywiol a wasanaethwn. Rydyn ni’n annog pobl o amrywiaeth o grwpiau diwylliannol ac ethnig na chynrychiolir yn ddigonol i ymgeisio, a bydd croeso cynnes iddynt. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg, a byddwn ni’n gohebu â chi yn iaith eich dewis. Ni chaiff ceisiadau a gyflwynir yn Gymraeg eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy’n dod i law yn Saesneg. Ein nod yw cymryd camau cadarnhaol i sicrhau bod yr holl ymgeiswyr yn cael eu dewis ar gyfer swyddi’n llwyr seiliedig ar eu haddasrwydd ar gyfer y rôl.

Y Cynllun Hyderus o ran Anabledd

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru’n gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, sydd wedi ymrwymo i gyfweld â phob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r holl feini prawf hanfodol a bennir ym manyleb y person.

Cyfeiriwch at linc Gov.uk Disability Confident Employer Scheme am fanylion pellach.

Sut i ymgeisio

Cyflwynwch y Ffurflen Gais a’r Ffurflen Monitro Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynwysoldeb ar ffurf dogfen Word i HR@arts.wales <mailto:HR@arts.wales>.  Os hoffech chi gyflwyno’ch cais mewn fformat arall, fel nodyn llais, fideo neu fideo Iaith Arwyddion Prydeinig, gofynnwn i chi gysylltu â ni yn gyntaf.

Dyddiad cau: Hanner dydd, Dydd Llun 10 Chwefror 2025

Cyfweliadau: Dydd Gwener, 21 Chwefror 2025

Os oes angen unrhyw ddarpariaethau arnoch yn ystod y broses ymgeisio, rhowch wybod i ni a byddwn ni’n hapus i helpu. 

Gweithio hyblyg

Er mwyn cynorthwyo ein gweithwyr i daro cydbwysedd rhwng eu bywyd gwaith a phersonol, byddwn ni’n ystyried cynigion ar gyfer trefniadau gweithio hyblyg neu rannu swydd.

Nodwch eich cynnig i weithio unrhyw beth heblaw’r oriau a hysbysebir yn eich llythyr esboniadol adeg cyflwyno’ch cais.

Dogfen21.01.2025

Pecyn Swydd: Swyddog Grantiau a Mynediad