Rydym yn chwilio am Rheolwr Llwyfan y Cwmni, i helpu i gynnal ein taith Giselle sydd i ddod.
Cyfnod y Contract: 10 wythnos, 12 Mai 2025-20 Gorffennaf 2025
Cyflog: £600 yr wythnos
Pensiwn: Yr opsiwn i ymaelodi â Chynllun Pensiwn y Cwmni
Hawl i Wyliau: 6 diwrnod, o fewn y cyfnod dan gontract
Lleoliad: Ballet Cymru, Casnewydd, NP10 9FQ
Cyfnod: Cyfnod penodol; bydd oriau gwaith anghymdeithasol yn ofynnol. 43 awr yr wythnos ar gyfartaledd ar draws cyfnod y contract, wythnos waith chwe diwrnod.
Buddion a hawliau: Darperir llety a £31 Per Diem ar gyfer aros dros nos i ffwrdd o Gasnewydd.
Lwfans adleoli yn ôl disgresiwn o £75 yr wythnos am hyd y prosiect, ynghyd â lwfansau yn ôl disgresiwn.
Manyleb y Person
Hanfodol
- Profiad Rheoli Llwyfan Proffesiynol
- Y gallu i reoli perthnasoedd â rhanddeiliaid mewnol ac allanol allweddol
- Yn meddu ar drwydded yrru lawn lân ers o leiaf 2 flynedd, dros 25 oed
- Sgiliau rhagorol o ran meddalwedd MS365
- Cymhwysedd i weithio yn y DU.
Gwneud cais
I wneud cais, anfonwch eich CV, ynghyd â llythyr eglurhaol sy'n nodi eich sgiliau a'ch profiad ar gyfer y rôl, a hynny trwy e-bost at Reolwr Cynhyrchu Ballet Cymru, Jonah Stein jonahstein@welshballet.co.uk
Y Dyddiad Cau ar gyfer Gwneud Cais: 24 Chwefror 2025
Bydd y ceisiadau a gyflwynir yn cael eu hadolygu a bydd rhestr fer yn cael ei llunio ar ôl iddynt ddod i law.
Cynhelir y cyfweliadau yr wythnos yn dechrau 3 Mawrth yn Ballet Cymru.
Hanfodol: Rhaid i bob ymgeisydd fod yn gymwys i weithio yn y DU
Bydd y ceisiadau a gyflwynir yn cael eu hadolygu a bydd rhestr fer yn cael ei llunio ar ôl iddynt ddod i law.
Bydd yr ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn cael gwahoddiad i ddod i gyfweliad, a hynny ar sail barhaus nes bod yr ymgeisydd llwyddiannus wedi cael ei benodi i'r swydd.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan ymgeiswyr anabl ac ymgeiswyr y Mwyafrif Byd-eang. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw anghenion o ran mynediad.
Mae Ballet Cymru yn Gyflogwr Cyfle Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig o dan yr enw Gwent Ballet Theatre Limited.