Mae Galeri yn edrych am unigolion brwdfrydig ac ymroddedig i ymuno â’r bwrdd i helpu i lywio datblygiadau a gweithrediadau'r cwmni dros y blynyddoedd nesaf.  

Byddai profiad neu gymwysterau yn y meysydd canlynol yn ddefnyddiol:  y gyfraith, adnoddau dynol, creadigol / celfyddydol , ac addysg. Yn ogystal â rhedeg y ganolfan gelfyddydol eiconig Galeri, mae’r cwmni hefyd yn rheoli portffolio amrywiol o eiddo yng Nghaernarfon gan gynnwys safle Cei Llechi, ac yn bartner allweddol mewn prosiectau adfywio yng Nghaernarfon.

Os oes gennych ddiddordeb yn y cyfle hwn ac yn credu y gallwch wneud cyfraniad i waith y cwmni, gyrrwch grynodeb o’ch profiad a chymwysterau i‘r Prif Weithredwr Interim, Meleri Davies ar yr ebost isod. Os am drafod y cyfle yn anffurfiol, croeso i chwi gysylltu am sgwrs.

Mae Galeri yn fenter gymdeithasol ac mae’r rôl yn ddi-dâl. 

meleri.davies@galericaernarfon.com

www.galericaernarfon.com
 

Dyddiad cau: 09/12/2024