Heddiw mae Simon Harris a Dr Bridget Keehan yn rhyddhau eu hadroddiad am gyfleoedd ar ganol gyrfa i gyfarwyddwyr theatr Cymru.

Mae Yn Fythol Dod i’r Amlwg? yn ystyried cyfleoedd i gyfarwyddwyr theatr Cymru gan roi cyd-destun ac awgrymiadau defnyddiol sy’n cyfrannu at y drafodaeth ar draws sector celfyddydol Cymru.

Meddai’r awduron:

“Cwblhawyd yr adroddiad hwn ym mis Chwefror 2020 ac roeddem yn bwriadu ei lansio y mis canlynol. Yna daeth COVID-19. Mae goblygiad llawn y pandemig hwn ar ein bywydau a'n bywoliaeth yn anfesuradwy, ond mae'n amlwg bod y byd wedi newid yn sylweddol. Ycwestiwn nawr i ni i gyd yw: beth gallwn ni wneud ar y cyd, ac fel unigolion, i sicrhau bod yr hyn sy'n deillio o argyfwng COVID yw sector mwy unedig a chyfartal.

“Yn hytrach na dychwelyd i'r sefyllfa "normal", mae'r pandemig hwn yn rhoi cyfle inni ailosod y ffordd y mae ein theatrau yn gweithio, ac i drawsnewid y sector trwy arferion mwy blaengar, teg a chynhwysol.