Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg

Teitl y Rôl: Rheolwr/wraig Gweithrediadau Cwsmeriaid

Cyflog: £29,718 - £31,284

Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos

Math o Gytundeb: Parhaol, oriau blynyddol

Dyddiad Cau: 1 Mai

Dyddiad Cyfweld: 7/8 Mai

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio

Amdanom ni/Ein Hadran:

Mae gan y tîm Gweithrediadau Cwsmeriaid rôl newydd cyffrous ar gyfer rheolwr/wraig brofiadol i ymuno â ni fel Rheolwr/wraig Gweithrediadau Cwsmeriaid.

Fel tîm, rydym newydd gwblhau ein blwyddyn fwyaf cyffrous hyd yma, gan lansio cinio Gala flaenllaw ar gyfer pen-blwydd CMC yn 20 oed, ynghyd â dathliad pen-blwydd cyntaf Ffwrnais, ein gofod newydd sbon. Wrth i CMC gyrraedd ei 21ain blwyddyn, mae gennym ni gynlluniau cyffrous sy’n cynnwys lansio siop manwerthu newydd a datblygu lleoliad awyr agored a fydd yn ganolbwynt i Fae Caerdydd yn haf 2025.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau

Mae ein Rheolwyr Gweithrediadau Cwsmeriaid wrth galon ein gweithgareddau gweithredol, gan arwain ac ysbrydoli ein timau gweithrediadau cwsmeriaid i greu profiad o safon fyd-eang ar draws holl elfennau’r lleoliad.

Ar hyn o bryd mae gennym 2 swydd wag, un sy'n siarad Saesneg a rôl arall lle mae'n hanfodol bod yn ddwyieithog yn y Gymraeg.

Fel Rheolwr/wraig Gweithrediadau Cwsmeriaid byddwch yn cymryd cyfrifoldeb rheoli llinell llawn dros ein tîm o Reolwyr Dyletswydd a Goruchwylwyr Lletygarwch cytundebol ac achlysurol, a fydd yn eu tro yn gyrru ein timau gweithredol i ddarparu gwasanaeth o safon fyd-eang, gan danio dychymyg y rhai sy’n cerdded trwy ein drysau. Mae’n timau gweithredol yn cynnwys staff lletygarwch parhaol ac achlysurol, Cynorthwywyr Cwsmeriaid achlysurol a'n tywyswyr gwirfoddol.

Byddwch yn gyfrifol am reolaeth y sefydliad o ddydd i ddydd gan ymateb i ddigwyddiadau, cwynion a galwadau busnes yn ôl yr angen, gan sicrhau bod safonau uchel bob amser yn flaenoriaeth ar y safle.

Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.

Gofynion Allweddol

  • Profiad amlwg o arwain, ysgogi a rheoli timau gweithrediadau mawr yn effeithiol mewn theatr/lleoliad byw.Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau cwsmeriaid, lletygarwch a gwirfoddoli.
  • Profiad o redeg lleoliad cyfan gyda chyfrifoldeb am ddiogelwch yr holl ymwelwyr a staff.
  • Profiad amlwg o reoli mewn argyfwng, er enghraifft gwacáu adeilad cyfan a digwyddiadau cymhleth eraill fel stopio sioeau a delio â sefyllfaoedd brys.
  • Profiad amlwg o reoli mewn argyfwng, er enghraifft gwacáu adeilad cyfan a digwyddiadau cymhleth eraill fel stopio sioeau a delio â sefyllfaoedd brys.
  • Profiad arddangos o reoli stoc ac arian parod yn rhagweithiol, gweithio gyda chyflenwr i sicrhau danfoniadau amserol a chywir
  • Bydd gofyn i chi weithio ar draws yr oriau 07:00 - 00:00 yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau ar sail shifft.

Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.
  • Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio.
  • Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol (ac anghenion gweithredol).

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.
 

Dyddiad cau: 01/05/2025