35 awr yr wythnos
£28,000 y flwyddyn
Yn gweithredu o Gaerdydd
Rôl barhaol
Mae’n bleser gan Theatr Taking Flight fod yn recriwtio ar gyfer rôl Rheolwr(aig) Gweithrediadau. Rydym yn chwilio am unigolyn sydd wedi cael profiad o weithio mewn rôl debyg, rhywun sy’n meddu ar hyblygrwydd sylweddol ac yn frwd am y Theatr.
Bydd gennych chi gyfrifoldeb gweithredol dros Gyllid, Adnoddau Dynol a Gweinyddiaeth ar draws y cwmni, wrth ichi gydweithio’n glòs â’n Cyfarwyddydd Gweithredol a’n Cyfarwyddydd Artistig ni.
Cwmni theatr bychan ydym yng Nghaerdydd, sy’n cynghori eraill ynghylch sicrhau mynediad rhwydd a chynhwysol i theatrau, gan weithio at ennill cynrychiolaeth gyfartal yn y theatr i bobl Fyddar ac anabl.
Ein bwriad yw i'n gweithlu ni gynrychioli bob rhan o gymdeithas, felly rydyn ni'n annog ymgeiswyr sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y celfyddydau ar hyn o bryd i wneud cais.
Os yw hyn yn swnio’n debyg i’ch sefyllfa chi, ac os carech chi ddysgu rhagor, lawrlwythwch ein swydd-ddisgrifiad
Os carech chi ddysgu rhagor, cysylltwch â ni louise@takingflighttheatre.co.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw canol dydd 22ainnd o Ionawr
Gwnewch gais gan yrru llythyr eglurhaol, CV a llun i Louise
(louise@takingflighttheatre.co.uk). Mae croeso i chi wneud cais yn BSL, Cymraeg neu Saesneg trwy fideo, recordiad sain neu ddogfen ysgrifenedig.