£28,719 y flwyddyn
LLAWN AMSER, PARHAOL
Rydyn ni’n chwilio am weithiwr proffesiynol profiadol yng ngwaith y Swyddfa Docynnau i ymuno â'n tîm angerddol, arbenigol ac ymroddedig tu hwnt fel Rheolwr y Swyddfa Docynnau a Mewnwelediadau Cynulleidfaoedd. Mae hon yn rôl uwch yn y tîm Marchnata a Chyfathrebu sy'n canolbwyntio ar ddyfnhau ein perthynas â'n cynulleidfaoedd ar yr un pryd â chynhyrchu incwm a sicrhau’r incwm gorau posib.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymgorffori rhagoriaeth wrth reoli systemau a phobl, gwasanaethau cwsmeriaid a chynhyrchu incwm. Rydym yn awyddus iawn i weld sut y gall yr unigolyn llwyddiannus helpu ein sefydliad i dyfu.
Dyddiad cau: Hanner dydd, ar Ddydd Gwener 12 Gorffennaf 2024
Cyfweliadau: Dydd Gwener 19 Gorffennaf 2024
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.
Rydyn ni am i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae'n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu'r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Felly, rydyn ni’n estyn croeso arbennig i ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol o fewn ein tîm ar hyn o bryd.
Cyllidir Theatr y Sherman gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Rydym yn ymroddedig i Gyfleoedd Cyfartal ac yn Elusen Gofrestredig.