Yn 2025 bydd Artes Mundi yn lansio AM11, ein hunfed ar ddeg gwobr ac arddangosfa, a gynhelir bob dwy flynedd, i ddathlu 21 mlynedd o gyflwyno celf gyfoes ryngwladol arloesol yng Nghymru. Fel ail fersiwn Cymru gyfan o'r prosiect, bydd AM11 yn digwydd ar draws pedair tref a dinas gyda phum partner lleoliad. Er mwyn gwireddu'r prosiect uchelgeisiol hwn ynghyd â’r rhaglen gyffredinol, mae angen codi llawer iawn o arian.

Gan weithio ochr yn ochr â’r Cyfarwyddwr, mae’r Rheolwr Datblygu yn gyfrifol am y swydd allweddol o gyflawni a gweinyddu anghenion datblygu Artes Mundi, gan gynnwys aelodaeth, rhoddwyr, ymgyrchoedd rhoi arian blynyddol a gwaith gydag ymddiriedolaethau, sefydliadau, cefnogwyr o’r llywodraeth, cyrff corfforaethol ac unigolion yng nghyd-destun cynllun codi arian amrywiol sy’n cyfrannu’n strategol at Genhadaeth Artes Mundi. Bydd y Rheolwr Datblygu yn gweithio gyda’r Cyfarwyddwr i ysgrifennu grantiau a gweithredu ymgyrchoedd, digwyddiadau a chynigion ar gyfer sefydliadau ac ymddiriedolaethau i gael cyfleoedd am nawdd, digwyddiadau rhoi corfforaethol, llywodraethol ac unigol blynyddol/wedi’u cynllunio, rhoddion unigol a meithrin/stiwardiaeth. Bydd yn gwneud hyn drwy ddefnyddio ymddiriedolaethau, sefydliadau a rhoddwyr presennol a newydd, ynghyd â chronfeydd data, cysylltiadau ac opsiynau eraill. Bydd angen gweithio gyda’r nos ac ar benwythnosau o bryd i’w gilydd. Gan weithio gyda Bwrdd yr Ymddiriedolwyr ac aelodau o’r tîm ehangach, bydd y Rheolwr Datblygu yn sicrhau ac yn rheoli’r cymorth a geir gan ffynonellau yn y sector cyhoeddus a phreifat a bydd yn creu cysylltiadau tymor hir i sicrhau cynaliadwyedd y sefydliad.

Manylion am y rôl 

  • Mae hon yn swydd lawn amser, barhaol.
  • Bydd cyflog dangosol rhwng £30,000 a £37,000 yn cael ei gynnig, ond bydd yn cael ei bennu ar sail yr ymgeisydd llwyddiannus a phrofiad a chefndir cymharol. Bydd pecyn adleoli cymedrol ar gael hefyd.
  • Yr oriau gwaith arferol yw 9.30am-5.30pm

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw: Dydd Llun 24 Chwefror 2025

Cynhelir y cyfweliadau (i’w gadarnhau): yng Nghaerdydd, yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ddydd Llun 10 Mawrth 2025

Y dyddiad dechrau delfrydol: Cyn gynted â phosibl (er y bydd modd trafod hyn yn y cyfweliad)
 

Dyddiad cau: 24/02/2025