Rheolwr Codi Arian Corfforaethol, Cymru

Diben y Swydd

Diben y swydd hon yw ‘paru’ sefydliadau yng Nghymru â’r cyfle i bartneru â Live Music Now ar gyfer eu rhaglenni Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol, cynyddu’r arian craidd a godir bob blwyddyn i Live Music Now a darparu incwm i sicrhau atebion iechyd creadigol i heriau cymdeithasol yng Nghymru.

Swydd newydd sbon yw hon i Live Music Now felly mae cyfle i feddyliwr trefnus a chreadigol ‘wneud ei farc’ a chynnig ei ddehongliad strategol o’r rôl hon, ac ar y cyd â’r Rheolwr Llinell (Cyfarwyddwr Cenedlaethol, Cymru) yn cytuno ar yr holl fanylion.

 

Prif Ddyletswyddau a Chyfrifoldebau

Codi arian a datblygu partneriaethau

  • Bwrw targedau codi arian bob blwyddyn
  • Llunio strategaeth codi arian gorfforaethol 3 blynedd a chynlluniau codi arian a gwerthiannau i Live Music Now Cymru yn unol â nodau strategol Cymru a’r DU yn ehangach
  • Cynorthwyo Live Music Now yn ein hamcan i amrywio ffrydiau ariannu, tyfu ein cynulleidfa a hyrwyddo’r celfyddydau, cerddoriaeth ac iechyd fel llwybr effeithiol at les
  • Datblygu achosion cynorthwyo sy’n adlewyrchu cyflawni rhaglen Live Music Now Cymru
  • Sicrhau partneriaethau corfforaethol a nawdd i yrru’r gwaith o gyflawni
  • Ymgynghori â phosibiliadau corfforaethol i sicrhau bod partneriaethau o fudd i’r ddwy ochr
  • Creu adroddiadau gwerthuso ac astudiaethau achos cadarn i fesur llwyddiant partneriaethau
  • Mabwysiadu dull gwella parhaus o ran ymarfer gwaith gan gynnwys bod yn ymwybodol o dueddiadau codi arian yng Nghymru. Rhoi gwybod i reolwyr llinell am argymhellion a risgiau o ran hyn

 

Rheoli Prosiectau

  • Defnyddio fframweithiau cynllunio prosiect i reoli partneriaethau corfforaethol ym mhob cam o stiwardio, gan gynnwys matricsau RACI
  • Cynrychioli Cymru a chodi arian corfforaethol yn fewnol ac yn allanol, drwy fod yn gennad dros eich rhaglen
  • Gweithio’n agos gyda chydweithwyr i fod yn ymwybodol o hynt prosiectau a’u gwerthuso, gan sicrhau y gallwch siarad am effaith Live Music Now gyda hygrededd a chywirdeb

 

Cyllid

  • Paratoi diweddariadau cyllid misol ar gyfer cyfarfodydd unigol â’r Rheolwr Llinell gan gynnwys; gwybodaeth am waith i ddod a drefnwyd, incwm/gwariant prosiectau, risgiau a chyfleoedd
  • Cydymffurfio â’r holl bolisïau a gweithdrefnau gan gynnwys prosesu anfonebau
  • Adrodd cynnydd i Gyngor Celfyddydau Cymru’n unol â’i amserlen a’i ofynion gan gynnwys diweddariadau cyllidebol

 

Marchnata a Chyfathrebu

  • Creu a chwblhau cynllun cyfathrebu mewnol ac allanol i godi arian corfforaethol
  • Casglu gwybodaeth am gynnydd codi arian corfforaethol: straeon newyddion, delweddau a dyfyniadau i ddiweddariadau rheolaidd ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol
  • Creu taflenni a deunydd marchnata gan ddefnyddio Canva a Flickr yn ôl yr angen (rhoddir hyfforddiant)
  • Creu canllaw ‘sut i wneud’ mewnol ar gyfer arfer gorau o ran Codi Arian Corfforaethol
  • Gweithio’n agos gyda chydweithwyr yng Nghymru i fod yn ymwybodol o gyflawni prosiectau a’u gwerthuso, i alluogi

 

Datblygu

Tasgau ychwanegol

  • Cyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill sy’n berthnasol i’r swydd hon fel y gofynnir gan Reolwr Llinell deiliad y swydd, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Live Music Now
  • Dirprwyo’n achlysurol i’r Cyfarwyddwr Cenedlaethol mewn digwyddiadau mewnol ac allanol
  • Deall a hyrwyddo Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a pholisïau allweddol eraill sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol a hyrwyddo iechyd yng Nghymru

 

Telerau ac Amodau

Dyma swydd rhan amser, yn y swyddfa yng Nghaerdydd a gynigir fel contract sefydlog 24 mis o ddyddiad dechrau’r ymgeisydd llwyddiannus.

Bydd y cyflog yn £27,000-30,000 yn dibynnu ar brofiad/cymhwysedd, ac fe’i telir bob mis.

Dyddiad cau i dderbyn cais: 9yb, Dydd Llun 8 Gorffennaf 2024

Dyddiad cau: 08/07/2024