Rheolwr Blaen y Tŷ, pan fyddant ar ddyletswydd, sy'n gyfrifol am sicrhau bod gweithrediadau Blaen y Tŷ yn rhedeg yn llyfn, gan roi'r ymwelwyr wrth galon ein gweithrediadau a chefnogi'r gwaith o ddatblygu ymgysylltiad o ansawdd gydag ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys rheoli cynulleidfaoedd, iechyd a diogelwch, cadw ty, diogelwch, a chyfforddusrwydd ym mhob ardal gyhoeddus yn yr adeilad. Mae hon yn swydd cadw allwedd.
Mae gofyn i Reolwyr Achlysurol ar Ddyletswydd gyflenwi ar gyfer staff dan gontract pan fyddan nhw ar wyliau neu'n sal. Mae angen staff hyblyg sy'n gallu ymateb ar fyr-rybudd ar adegau, er mwyn sicrhau bod staff gan Chapter yn ystod hall oriau agar yr adeilad.
Mae gofyn i Reolwyr Achlysurol ar Ddyletswydd weithio o leiaf un sifft y mis, yn ol gofyn y Pennaeth Gwasanaethau Ymwelwyr. Mae hyfforddiant Cymorth Cyntaf a Swyddog Tan yn orfodol fel rhan o'r swydd, a byddant yn cael eu darparu gan Chapter.
Wyth awr yw sifft Blaen y Tŷ arferol. Mae amserlen ar waith i sicrhau bod gan Chapter ddigon o staff blaen y tŷ ar bob adeg. Mae'n hanfodol bod deiliad y swydd yn gallu gweithio boreau cynnar, nosweithiau hwyr, ac ar y penwythnosau.