Mae Opera Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi manylion adroddiad gwerthuso ar ei raglen beilot Lles gyda WNO: Rhaglen Rheoli Poen Parhaus. Mae’r adroddiad, a gwblhawyd gan Milestone Tweed, yn amlygu gwelliannau sylweddol o ran rheoli poen, iechyd meddwl ac emosiynol, ac ansawdd bywyd cyffredinol cyfranogwyr. 

Cafodd y rhaglen beilot chwe wythnos o hyd o ganu ac anadlu, a gynhaliwyd rhwng mis Mawrth 2024 a mis Mawrth 2025, ei llunio i gefnogi pobl sy’n byw gyda phoen parhaus. Gan adeiladu ar lwyddiant Rhaglen Covid Hir Lles gyda WNO, a lansiwyd yn 2021, mae’r rhaglen yn cynnwys sesiynau awr o hyd bob wythnos ynghyd â sesiynau galw heibio dewisol bob pythefnos. Erbyn mis Tachwedd 2024, pan luniwyd yr adroddiad, roedd 44 o gyfranogwyr wedi cymryd rhan mewn 36 sesiwn gyda chwe mynychwr fesul sesiwn ar gyfartaledd. Yn ogystal, cofnodwyd 65 o gyfranogwyr ar draws wyth sesiwn galw heibio, gan adlewyrchu ymgysylltiad ac ymrwymiad da. 

Dyma brif ganfyddiadau’r gwerthusiad (yn seiliedig ar y cyfranogwyr a nodwyd uchod): 

1. Llai o boen a mwy o ymarferoldeb: 
- Roedd y canlyniadau’n dangos gwelliant o 67% o ran poen/anesmwythder. 
- Adroddwyd lleihad mewn poen gan 66% o’r cyfranogwyr ac maent yn priodoli’r newid hwn i’r rhaglen. Ar gyfer o leiaf un o bob deg, roedd y boen wedi lleihau’n sylweddol. 

2. Buddion emosiynol ac o safbwynt iechyd meddwl: 
- Roedd y canlyniadau’n dangos gwelliant o 67% o ran gorbryder/iselder, ac roedd 69% yn adrodd gwell ansawdd bywyd yn gysylltiedig ag iechyd. 
- Roedd cyfranogwyr yn teimlo’n fwy positif, gyda mwy o ffocws, ac yn teimlo bod eu cyflyrau’n llai o faich arnynt. 

3. Ymgysylltiad da gan gyfranogwyr: 
- Mae 95% o’r cyfranogwyr yn dal i ddefnyddio’r technegau anadlu a’r ymarferion ar ôl y rhaglen. 
- Roedd presenoldeb yn 82% ar gyfartaledd. 

4. Cost effeithlonrwydd: 
- Amcangyfrifir fod sesiynau’n costio £12 y pen fesul awr, o’i gymharu â £34.30 am Ffisiotherapydd GIG Band 7 o’r Gwasanaethau Poen Cronig. 
- Mae darpariaeth ganolog yn gwaredu’r angen i fyrddau iechyd unigol sefydlu rhaglenni costus, gan gyd-fynd â chanllawiau NICE a chreu arbedion. 

5. Buddion ychwanegol: 
- Roedd data ansoddol yn amlygu themâu megis therapi holistaidd drwy gerddoriaeth, llawenydd a phositifrwydd, awdurdod, derbyniad, hunanreolaeth, perthynas â’r gymuned, a chynnydd mewn gwybodaeth a dysgu Cyfeiriwyd cyfranogwyr Rhaglen Beilot Lles gyda WNO: Rheoli Poen Parhaus, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac mewn partneriaeth â GIG Cymru, gan glinigau ledled Cymru; roedd rhai’n cyfeirio eu hunain at y gwasanaeth a chafodd eraill eu cyfeirio gan y sefydliad trydydd sector Cymru Versus Arthritis. 

Dywedodd Owen Hughes, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Poen Parhaus, GIG Cymru: 

“Bu’r bartneriaeth hon gyda WNO yn hynod o lwyddiannus. Mae’r adborth gan gyfranogwyr wedi bod yn wych gydag amryw yn dweud wrthym fod cymryd rhan yn y rhaglen wedi newid eu bywydau. Nid yn unig maent wedi mwynhau dysgu sut i ddefnyddio anadl a chanu i reoli eu poen, ond hefyd fe lwyddodd i roi hyder iddynt gymdeithasu unwaith eto. Dywedodd amryw ohonynt eu bod wedi mynd ymlaen i ymuno â chorau ac mae rhai yn dymuno mynd yn ôl i weithio. Mae grym cerddoriaeth a chân wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau.” 

Dywedodd June Evans, Cyfranogwr Lles gyda WNO: 

“Mae’r rhaglen hon wirioneddol wedi newid fy mywyd. Cyn i mi gychwyn ar y sesiynau roedd fy mywyd yn llawn galar oherwydd y salwch a ddioddefais ac roeddwn yn cael fy rheoli gan fy mhoenau. Mae llesiant gyda’r WNO wedi fy nysgu sut i leddfu’r boen ac mae pob sesiwn yn fy nhynnu yn nes at y person yr oeddwn ers talwm. Mae fy mywyd yn cynnig hapusrwydd unwaith eto ac wedi dangos i mi sut i wenu unwaith eto.” 

Ochr yn ochr â’r cynllun peilot newydd hwn, mae WNO wedi parhau i ddatblygu ac ehangu’r rhaglen COVID Hir blaenllaw dros y flwyddyn ddiwethaf, i gynnwys cyflyrau hirdymor eraill megis ME/CFS a ffibromyalgia, gan gyd-fynd â rhaglen Adferiad Llywodraeth Cymru. Mae’r fenter wedi denu llawer o ddiddordeb ar draws y byd meddygol, gyda chyflwyniadau i Rwydwaith Straen Trawmatig Cymru, Cymdeithas Seicolegol Prydain, a chynrychiolaeth ryngwladol. 

Mae WNO hefyd yn darparu mentrau presgripsiynu cymdeithasol newydd gan gynnwys: rhaglen ar gyfer myfyrwyr ysgol uwchradd sy’n profi gorbryder a diffyg hyder; partneriaeth gyda Chanolfan Ganser Felindre i fynd i’r afael â diffyg anadl; a chynllun peilot ar gyfer unigolion mewn gofal â chymorth mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. 

Dywedodd Emma Flatley, Cyfarwyddwr Rhaglenni ac Ymgysylltiad WNO: 

“Rydym ni’n hynod falch o weld effaith fuddiol Lles gyda WNO: Rhaglen Poen Parhaus yn yr adroddiad hwn. Mae’r lefelau uchel o ymgysylltiad, cost effeithlonrwydd a chanlyniadau trawsnewidiol ar iechyd hirdymor unigolion yn amlygu ei photensial fel rhaglen werthfawr. Rydym yn falch o glywed yn uniongyrchol gan gyfranogwyr ynghylch sut mae’r rhaglen wedi gwella eu bywydau. Mae’r cyfle i esblygu’r rhaglen hon i greu gwasanaeth adfer ar gyfer meysydd iechyd eraill ac ymrwymo i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael mynediad i’r gwasanaeth arloesol hwn mor bwysig.” 

Darperir sesiynau Lles gyda WNO drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg, dros Zoom - i sicrhau hygyrchedd. Mae’r sesiynau wedi’u cyd-gynllunio ac yn cael eu harwain gan Arbenigwyr Lleisiol WNO Zoë Milton-Brown, Jenny Pearson a Kate Woolveridge MBE. 

Cefnogir Lles gyda WNO gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy’r Gronfa Loteri Celfyddydau, Iechyd a Lles, a byrddau iechyd GIG Cymru. Ariennir cynllun peilot WNO ar gyfer Poen Parhaus yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, ac fe’i darperir mewn partneriaeth â GIG Cymru. Ar gyfer ymholiadau’r wasg, lluniau neu gyfweliadau, cysylltwch ag: Elin Rees, Ymgynghorydd Cyfathrebu | comms@wno.org.uk