Llenyddiaeth Cymru | Literature Wales: Recriwtio Cadeirydd ac Ymddiriedolwyr

Gwirfoddol, cyfnod cychwynnol o 3 mlynedd

Dyddiad cau: Dydd Mercher 9 Ebrill

Cyfweliadau: w/d 28 Ebrill

Neges gan Fwrdd Ymddiriedolwyr Llenyddiaeth Cymru

Ydych chi’n angerddol dros y celfyddydau a phosibiliadau trawsnewidiol llenyddiaeth? Ydych chi’n ymroddedig i werthoedd cynhwysiant a thegwch, ac yn credu y gall diwylliant yn ei holl ffurfiau arwain at newid cadarnhaol i’r gymdeithas? Oes gennych chi’r wybodaeth a sgiliau arweinyddol i gefnogi llywodraethu da, i ddatblygu strategaeth ac i ysbrydoli newid cadarnhaol? Os felly, hoffwn eich annog i ystyried ymgeisio am i ymuno â Bwrdd Llenyddiaeth Cymru.

Rydyn ni’n falch o’r ffordd mae Llenyddiaeth Cymru wedi esblygu dros y blynyddoedd i fod yn sefydliad hyblyg sy’n croesawu newid. Rydyn ni’n sicrhau bod ein strategaeth yn esblygu ochr yn ochr â’r sector rydyn ni’n gweithio ynddo wrtho iddo newid yn gyflym, fel y gallwn ni ddatblygu cyfleoedd newydd ar gyfer ein hawduron ac adlewyrchu anghenion ein darllenwyr a’n cynulleidfaoedd. Rydyn ni’n hwylusydd yn y sector sy’n gweithio i drawsnewid sîn lenyddol Cymru gan rymuso awduron a chynulleidfaoedd drwy bartneriaethau strategol ac effeithiol. 

Wrth inni edrych i’r dyfodol â hyder, rydym hefyd yn ymwybodol o’r anawsterau parhaus sy’n wynebu ein sector a’r heriau dyfnach i gyllid cyhoeddus ar gyfer diwylliant a’r celfyddydau.

Yn y blynyddoedd i ddod bydd angen i ni fod yn fwy creadigol, cydweithredol a mwy gwydn nag erioed o'r blaen, i liniaru'r heriau sydd o'n blaenau.

Ar ôl gwasanaethu am ddau dymor ar Fwrdd Llenyddiaeth Cymru bydd ein Cadeirydd presennol, yr academydd Cathryn Charnell-White, yn ymddeol ddiwedd 2025. Rydym felly am benodi Cadeirydd newydd â gweledigaeth, yn ogystal â hyd at dri Ymddiriedolwr newydd deinamig, ymroddedig a chreadigol. Mae ein Hymddiriedolwyr i gyd yn dod â rhywbeth unigryw i'r sefydliad ac yn eiriolwyr cryf dros yr hyn a wnawn. Fel Ymddiriedolwyr rydym oll yn cymryd cyfrifoldeb ar-y-cyd dros redeg yr elusen, gyda chyfrifoldebau ychwanegol penodol wedi’u dirprwyo i’r Cadeirydd a’r Dirprwy Gadeirydd. 

Fel Cadeirydd ac Ymddiriedolwr byddwch yn cydweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr Gweithredol a’r Cyfarwyddwr Artistig i lunio cyfeiriad strategol y sefydliad; gan herio, cynghori ac arwain yr Uwch Dîm Arwain; a helpu i ddarparu llywodraethu effeithiol ac adeiladol wrth gadw’n dryw i’n cenhadaeth a’n gwerthoedd.

Mae Bwrdd Rheoli Llenyddiaeth Cymru yn cynrychioli sector eang ac yn ceisio cynnwys ystod o arbenigedd, profiadau, a lleisiau. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan bobl ifanc ac unigolion sydd wedi’u tangynrychioli yn y sector llenyddiaeth. Os ydych chi’n newydd i’r math yma o rôl neu’n camu mewn i rôl Cadeirydd am y tro cyntaf, byddwn ni’n eich cefnogi drwy ddarparu hyfforddiant. 

Rydyn ni’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr sy’n cynnig arbenigedd yn un neu fwy o’r meysydd canlynol: y Gymraeg a diwylliant Cymru, llenyddiaeth yn ei holl ffurfiau, cynaladwyedd, codi arian ac ymgysylltu â rhanddeiliaid, anabledd a gwahaniaethu, rheoli eiddo a lletygarwch, technoleg gwybodaeth a rheoli data, y gyfraith, cyllid a llywodraethu elusennol.

Rydyn ni'n chwilio am arweinydd ac eiriolwyr cryf sy'n rhannu gweledigaeth a gwerthoedd y sefydliad, ac fydd yn gweithio gyda'u cyd-Ymddiriedolwyr a'r staff i alluogi creadigrwydd a sicrhau safonau uchel o lywodraethant, tryloywder a hygyrchedd. Os yw hyn yn swnio fel chi, ystyriwch wneud cais heddiw neu cysylltwch â ni i gael sgwrs anffurfiol.

Diolch am eich diddordeb yn y swydd hon, ac edrychwn ymlaen at glywed gennych.            

Gallwch weld mwy am y rôl a’r cyfrifoldebau yn y pecyn recriwtio drwy'r linc isod.

Addewid Recriwtio 

Nod Llenyddiaeth Cymru yw bod yn sefydliad cynhwysol sy’n ymroddedig i groesawu ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd. Rydyn ni’n asesu ceisiadau ar sail cryfder potensial, a byddwn ni’n cymryd camau cadarnhaol drwy warantu cyfweliad i bob ymgeisydd sy’n bodloni gofynion addasrwydd y rôl ac sy’n uniaethu fel rhywun sydd wedi’u tangynrychioli yn y sector llenyddol. Ein nod yw datblygu llenyddiaeth fel ffurf ar gelfyddyd sy’n gynrychioliadol ac yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Rydyn ni’n credu mai’r ffordd orau o gyflawni’r nod hwnnw yw drwy greu gweithlu amrywiol sydd â phrofiadau byw amrywiol. 

Rydyn ni’n annog ceisiadau yn arbennig gan unigolion sy’n uniaethu ag un neu fwy o’r datganiadau canlynol: 

  • Rwy’n dod o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig.  
  • Rwy’n anabl neu’n dioddef â salwch hirdymor (meddyliol neu gorfforol).  
  • Rwy’n dod o gefndir incwm isel. 

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein Cynllun Cydraddoldeb, Cynhwysiant ac Amrywiaeth. Datblygwyd ein fframwaith recriwtio fel rhan o gynllun Rhaglen Ysgoloriaethau Creadigol Weston Jerwood, sy'n cefnogi sefydliadau celfyddydol i ehangu eu hymagwedd at recriwtio a datblygu doniau amrywiol. 

Os hoffech wneud cais am y rôl hon ond eich bod yn ansicr a oes gennych ddigon o brofiad, neu sut gallai effeithio ar eich gyrfa neu gyfleoedd eraill/amgen i weithio gyda Llenyddiaeth Cymru, cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol. 

Post@llenyddiaethcymru.org / 029 20472266
 

Dyddiad cau: 09/04/2025